Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Rhybudd y tafod glas: annog ffermwyr yng Ngheredigion i fod yn wyliadwrus

Mae'r achosion cyntaf a gadarnhawyd o feirws y Tafod Glas (BTV) bellach wedi'u canfod yng Nghymru, ac anogir ffermwyr ac unrhyw un sy’n cadw da byw i fod yn ymwybodol o unrhyw symptomau posibl.

O ddydd Mercher, 01 Hydref 2025, mae achosion wedi'u cadarnhau ym Mhowys a Sir Fynwy. Gallwch dderbyn y rhybuddion diweddaraf drwy e-bost a negeseuon testun gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) drwy gofrestru i'r gwasanaeth rhybuddion canlynol: Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

Yn sgil risg o ledaenu pellach, mae'n hanfodol bod pawb yn ein cymuned ffermio yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn cymryd camau i amddiffyn eu hanifeiliaid.

Beth sydd angen i chi ei wneud:

  • Gwiriwch eich anifeiliaid yn rheolaidd am arwyddion o dafod glas, gan gynnwys twymyn, chwyddo'r pen a'r gwddf, cloffni, a wlserau'r geg.
  • Rhowch wybod am unrhyw symptomau amheus ar unwaith i'ch milfeddyg neu'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).
  • Trafodwch opsiynau brechu gyda'ch milfeddyg. Brechu yw'r ffordd orau o leihau effaith y tafod glas ac amddiffyn eich buches neu ddiadell.
  • Dilynwch gyfyngiadau symud a chyngor bioddiogelwch a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac APHA.
  • Prynwch anifeiliaid yn gyfrifol a byddwch yn ymwybodol o’r canllawiau diweddaraf o ran symudiadau da byw.

Mae'r tafod glas yn glefyd hysbysadwy a achosir gan haint â feirws y tafod glas. Mae feirws y tafod glas yn cael ei ledaenu'n bennaf trwy wybed mân brathog. Mae'r feirws yn effeithio ar ddefaid, gwartheg, anifeiliaid cnoi cil eraill fel ceirw a geifr, camelidau fel lamas ac alpacas. Yn anaml iawn, gall y tafod glas effeithio ar gŵn a chigysyddion eraill os ydyn nhw'n bwyta deunydd heintiedig (fel deunydd wedi'i erthylu ac ar ôl geni).

Nid yw'n effeithio ar bobl na diogelwch bwyd, ond gall achosion arwain at gyfyngiadau hir o ran symud anifeiliaid a masnach.

Ychwanegodd y Cynghorydd Matthew Vaux, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Ddiogelu'r Cyhoedd: "Mae'n bwysig bod unrhyw un sy'n cadw da byw yn ymwybodol o symptomau'r tafod glas ac yn gwybod sut i'w hadnabod. Os ydych chi'n gweld arwyddion o'r feirws, rhowch wybod i'ch milfeddyg neu’r APHA ar unwaith. Byddwch yn ymwybodol, byddwch yn barod, a helpwch i ddiogelu sector da byw Ceredigion."

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth o'r adnoddau swyddogol hyn: