Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Rhagflas o ras y ffordd ym Mhencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds 2025

Dim ond ychydig ddyddiau sydd i fynd tan y bydd Pencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds 2025 yn dod i ben yng Ngheredigion gyda ras galed ar ffyrdd Aberystwyth a’r cyffiniau. Bydd y reidwyr yn cystadlu am y goron genedlaethol yn yr olaf o’r tri digwyddiad sy’n rhan o’r Pencampwriaethau.

Y cymal

Ddydd Sul 29 Mehefin 2025 fe fydd Pencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds 2025 yn parhau wrth i rai o enwau mwyaf y byd rasio ar y ffyrdd ymgiprys o amgylch Aberystwyth yn ras y ffordd.

Ar ôl cael eu cyflwyno a dechrau arni ger y prom, bydd ras y ffordd yn bwrw allan o’r dref tuag at y Gors ac mor bell â Thrawsgoed ar lap ddeniadol ond heriol, 23.4 cilomedr o hyd, yn erbyn cyfeiriad y cloc. Bydd y reidwyr yn dychwelyd i  Aberystwyth drwy basio Abermad.

Gyda dringfa o hyd at 9.1% ar ddechrau pob lap, bydd y peloton yn teneuo wrth i’r rasio symud ymlaen i’r gylchffordd olaf ar ôl tair lap yn ras y merched a phum lap i’r dynion.

Bydd y rasio yn dechrau’n gynnar wrth i’r merched elît a dan 23 fwrw ati am 8:45, cyn i’r dynion elît a dan 23 ddod â’r rasys i ben pan fyddant yn dechrau am 13:45.

 

Y reidwyr

Mae ras y ffordd yn llawn dop o feicwyr talentog yn y ddwy ras.  Bydd pencampwraig ras y ffordd ar dri achlysur, Pfeiffer Georgi (Tîm Picnic PostNL) yn ceisio amddiffyn ei theitl ond bydd y gystadleuaeth yn boeth.

Bydd Anna Henderson (Lidl-Trek) yn ceisio gorffen un safle’n uwch eleni ar ôl gorffen yn ail y llynedd yn ras y ffordd. Ymhlith y ffefrynnau eraill y mae’r ddeuawd o Fenix-Deceuninck sef Flora Perkins a Millie Couzens, yn ogystal ag Alice Towers (CANYON // SRAM Racing Team).

Un i gadw llygad arni fydd Cat Ferguson (Tîm Movistar) sydd newydd greu argraff yn Tour of Britain Lloyds 2025 yn gynharach y mis yma. Yno fe ddaeth Cat ar frig y rhestr bwyntiau, ennill crys y beiciwr ifanc gorau ac ennill ei chymal cyntaf yn ei gyrfa, yn Kelso.

Wrth edrych ymlaen at y Pencampwriaethau dywedodd Pfeiffer Georgi: “Mae’r Pencampwriaethau cenedlaethol yn golygu llawer i fi ac rwy’ wedi bod yn lwcus i gael llwyddiant yno dros y blynyddoedd diwethaf. Mae mynd i’r Pencampwriaethau eleni ar ôl ennill cefn-wrth-gefn yn dod â phwysau ac mae wedi bod yn anodd dychwelyd o anaf. Felly fydd hi ddim yn hawdd ond rwy’n benderfynol ac yn barod i roi popeth iddi.

“Mae safon y cystadlu yn y rasio ar y ffyrdd i ferched yn cryfhau o hyd ac mae hynna’n sbardun i fi godi gêm bob tro rwy’ ar y llinell ddechrau.”

Yn ras y dynion mae Ethan Hayter (Soudal Quick-Step) yn dychwelyd i amddiffyn y teitl cenedlaethol a enillodd yn ras y ffordd 2024, ac felly hefyd y ddau arall oedd ar y podiwm gydag ef sef Lewis Askey (GROUPAMA – FDJ) a Max Walker (EF Education – EasyPost).

Bydd y cefndryd Connor Swift a Ben Swift (y ddau o Ineos Grenadiers) hefyd yn ymgeisio am y teitl, a bydd gwerth cadw llygad ar Ben Wiggins (Hagens Berman Jayco CT).

Bydd llu o feicwyr o Gymru yn cystadlu yn y digwyddiad gan geisio plesio’r dorf leol. Yn eu plith fydd Owain Doull (EF Education – EasyPost), Huw Buck-Jones (Bourg-en-Bresse Ain Cyclisme), Zoe Backstedt (CANYON-SRAM zondacrypto), Elinor Barker (Uno-X Mobility) a Megan Barker (Tekkerz CC).

 

Sut i wylio

I ddilynwyr na fydd yn medru gwylio o ochr y ffordd, gallwch wylio’n fyw ar sianel Youtube British Cycling, Discovery+ ar-lein a TNT, a bydd rhaglen uchafbwyntiau lawn ar Discovery+ a TNT2 am 7pm ar nos Fawrth, 1 Gorffennaf. 

Gallwch hefyd ddilyn ar sianeli cyfryngau cymdeithasol British Cycling. Hefyd bydd adroddiad llawn a lluniau i’w gweld ar wefan British Cycling toc ar ôl i’r digwyddiad olaf orffen.

 

Ymunwch yn y sgwrs!

Boed yn Aberystwyth neu’n gwylio gartref, anfonwch eich sylwadau a’ch lluniau atom ar Facebook, X ac Instagram lle byddwn yn rhannu ein cynnwys ecsgliwsif a lluniau o’r tu ôl i’r llenni drwy gydol y digwyddiad.