
Rhagflas o’r ras yn erbyn y cloc ym Mhencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds 2025
Mae llai nag wythnos i fynd tan y bydd Pencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds 2025 yn dechrau yng Ngheredigion gyda ras heriol yn erbyn y cloc yn ardal Aberaeron. Bydd y reidwyr yn cystadlu am y goron genedlaethol yn y cyntaf o’r tri digwyddiad sy’n rhan o’r Pencampwriaethau.
Y cymal
Ddydd Iau 26 Mehefin 2025 fe fydd Pencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds 2025 yn dechrau arni wrth i rai o enwau mwyaf y byd rasio ar y ffyrdd ymgiprys ar lwybr heriol yn ardal dyffryn Aeron, Ceredigion.
Bydd y beicwyr yn dechrau yn Ffos-y-Ffin ac yn croesi’r cnwcyn i Giliau Aeron cyn dychwelyd i Aberaeron a dringo llethr byr ond serth Rhiw Goch.
Bydd y rasio yn dechrau’n gynnar gyda’r dan 23 yn bwrw ati am 9:00, y merched elît am 10:45, y merched dan 23 am 13:40, a’r rasio’n gorffen gyda’r dynion elît fydd yn bwrw mas am 14:50.
Y reidwyr
Mae safon uchel iawn i’r reidwyr o Brydain fydd yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds 2025. Un i gadw llygad arni fydd Cat Ferguson (Tîm Movistar) yn y ras yn erbyn y cloc dan 23. Newydd greu argraff yn Tour of Britain Lloyds 2025 i ferched y mae Cat lle ddaeth ar frig y rhestr bwyntiau, ennill crys y beiciwr ifanc gorau ac ennill ei chymal cyntaf yn ei gyrfa, yn Kelso.
Mae Anna Henderson (Lidl-Trek) yn ôl yn y Bencampwriaeth eleni ar ôl ennill y ras yn erbyn y cloc y llynedd. Bydd y gystadleuaeth yn boeth yn erbyn beicwyr megis pencampwraig ras y ffordd ar dri achlysur, Pfeiffer Georgi (Tîm Picnic PostNL) ac enillydd y ras i ferched dan 23 y llynedd, Josie Nelson (Tîm dsm-Firmenich PostNL).
Mae Max Walker (Tîm Datblygu Astana Qazaqstan) ac Ethan Vernon (Israel – Premier Tech) yn dychwelyd i’r ras ffordd genedlaethol elît i ddynion gyda’r nod o gymryd y teitl oddi ar yr arwr lleol Josh Tarling (INEOS Grenadiers).
Bydd Tomos Pattinson (Tîm Visma | Lease a Bike Development) yn ceisio amddiffyn ei deitl yn y ras yn erbyn y cloc i ddynion dan 23 ond bydd rhaid iddo wrthsefyll her beicwyr megis Ben Wiggins (Hagens Berman Jayco CT) fydd yn anelu i wella ar ei fedal arian y llynedd.
Bydd llu o feicwyr o Gymru yn cystadlu gan gynnwys Owain Doull (EF Education – EasyPost) a’r chwiorydd Zoe Backstedt (CANYON-SRAM zondacrypto) ac Elynor Backstedt (UAE Team ADQ), ac Elinor Barker (Uno-X Mobility) a Megan Barker (Tekkerz CC).
Wrth edrych ymlaen at y Pencampwriaethau Rasio Ffyrdd, dywedodd Zoe Backstedt: “Fedra i ddim aros tan y bencampwriaeth eleni oherwydd mae wastad yn bleser rasio nôl gartref, ac mae rasio yng Nghymru yn deimlad arbennig iawn. Mae’r Pencampwriaethau Cenedlaethol yn ddathliad arbennig o’r talent o Brydain ac rwy’n browd o fod yn rhan o’r cystadlu. Fedra i ddim aros tan y llinell gychwyn a chael mynd amdani.”
Sut i wylio
I ddilynwyr na fydd yn medru gwylio o ochr y ffordd, gallwch ddilyn ar sianeli cyfryngau cymdeithasol British Cycling. Hefyd bydd adroddiad llawn a lluniau o’r ras yn erbyn y cloc i’w gweld ar wefan British Cycling toc ar ôl i’r digwyddiad olaf orffen.
Ymunwch yn y sgwrs!
Boed yn Aberaeron neu’n gwylio gartref, anfonwch eich sylwadau a’ch lluniau atom ar Facebook, X ac Instagram lle byddwn yn rhannu ein cynnwys ecsgliwsif a lluniau o’r tu ôl i’r llenni drwy gydol y digwyddiad.