Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Rhagflas o’r ras gylchffordd ym Mhencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds 2025

Gydag ond ychydig ddyddiau i fynd tan y bydd Pencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds 2025 yn dechrau yng Ngheredigion, mae’r cyffro yn cynyddu wrth i’r reidwyr baratoi i ymgiprys yn y ras gylchffordd ar strydoedd Aberystwyth. Bydd y reidwyr yn cystadlu am y goron genedlaethol yn yr ail o’r tri digwyddiad sy’n rhan o’r Pencampwriaethau.

Y cymal

Ddydd Gwener 27 Mehefin 2025 fe fydd Pencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds 2025 yn parhau wrth i rai o enwau mwyaf y byd rasio ar y ffyrdd ymgiprys o amgylch strydoedd tref Aberystwyth.

Bydd y beicwyr yn dechrau ger y prom enwog cyn mynd ar hyd strydoedd canol y dref ar lap 1.6 cilomedr o hyd. Bydd 50 munud a phum lap o rasio yn penderfynu pencampwriaeth y menywod elît a’r bencampwriaeth agored elît, a bydd hefyd yn rhoi nifer o gyfleoedd i wylwyr annog y beicwyr yn eu blaenau wrth iddynt wibio heibio.

Ni fydd angen i’r gwylwyr golli gwaith oherwydd bydd y ras gylchffordd yn dechrau gyda’r nos ‒ y merched elît yn dechrau rasio am 18:45, a’r ras Agored am 20:00.

 

Y reidwyr

Mae safon uchel iawn i’r reidwyr o Brydain fydd yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds eleni. 

Mae Eilidh Shaw (Tîm Datblygu UAE) yn ôl eto eleni ar ôl gorffen yn ail agos yn ras y merched y llynedd. Hefyd yn dychwelyd y mae Isabel Darvill (CJ O'Shea Racing Team) a orffennodd hefyd ar y podiwm y llynedd. 

Bydd Ben Askey (CC Etupes), yn ceisio dilyn yn ôl troed ei frawd Lewis Askey (Groupama – FDJ) ac ennill y ras gylchdaith yn yr Agored. Bydd Tim Shoreman (Wheelbase Cabtech Castelli) yn ceisio gorffen ar y podiwm y tro hwn ar ôl ei bedwerydd safle y llynedd.

Bydd llu o feicwyr o Gymru yn cystadlu ar y ffyrdd ac yn ceisio plesio’r dorf leol eleni. Mae Megan Barker (TEKKERZ CC), Rhys Britton (Dolan Factory Racing), Anna Lloyd (Shibden Apex RT) a Huw Owen (Clwb Beicio Egni Eryri) ymhlith y Cymry fydd yn ceisio cynhyrfu’r dorf. 

Mae Megan Barker ymhlith un o'r ffefrynnau yn y ras gylchffordd ar ôl iddi ennill ras gylchffordd y bencampwriaeth genedlaethol yn 2023. Dywedodd Megan: “Roedd ennill y gylchffordd genedlaethol yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa. Mae'n golygu cymaint ac mae’n darged enfawr i fi bob tymor. Mae cael gwisgo'r streipiau ar gyfer y flwyddyn ddilynol yn deimlad arbennig. Mae cymaint o dalent yn y DU ac mae'r holl feicwyr gorau yn gwneud ymdrech i ddod adref i rasio, felly bydd y rasio’n glòs ac yn gyffrous yn erbyn y cloc, ar y gylchffordd ac yn ras y ffordd.”

 

Sut i wylio

I ddilynwyr na fydd yn medru gwylio o ochr y ffordd, gallwch wylio’n fyw ar sianel Youtube British Cycling, Discovery+ ar-lein a TNT, ynghyd â rhaglen uchafbwyntiau ar Discovery+ ar-lein a TNT. Gallwch hefyd ddilyn ar sianeli cyfryngau cymdeithasol British Cycling. Hefyd bydd adroddiad llawn a lluniau i’w gweld ar wefan British Cycling toc ar ôl i’r digwyddiad olaf orffen.

 

Ymunwch yn y sgwrs!

Boed yn Aberystwyth neu’n gwylio gartref, anfonwch eich sylwadau a’ch lluniau atom ar Facebook, X ac Instagram lle byddwn yn rhannu ein cynnwys ecsgliwsif a lluniau o’r tu ôl i’r llenni drwy gydol y digwyddiad.