Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Pwll Nofio Llambed i gau dros dro ar gyfer gwaith adnewyddu hanfodol

Bydd pwll nofio Llanbedr Pont Steffan yn cau dros dro yn ystod tymor yr haf er mwyn cynnal gwaith hanfodol i wella’r cyfleuster.

Cynhelir y gwaith adnewyddu o 7 Gorffennaf tan 11 Awst 2025 er mwyn uwchraddio’r offer trin dŵr yn ystafell beirianneg y pwll nofio - buddsoddiad gwerth dros £140,000.
 
Trefnwyd y gwaith i darfu cyn lleied â phosibl ar ddefnyddwyr, gyda’r nod o ailagor ar gyfer rhan fwyaf o wyliau’r haf. Ni fydd y gwaith yn effeithio ar y Ganolfan Lles yn Llambed.
 
Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae Pwll Nofio Llanbedr Pont Steffan yn boblogaidd ymhlith pobl o bob oed ar draws canol Ceredigion. Mae’r pwll, sydd bellach yn 50 mlwydd oed, yn adnodd pwysig, ond er mwyn cynnal y safon ac i wella’r cyfleusterau, mae’n angenrheidiol eu cau dros dro. Gobeithiwn na fydd y gwaith yn creu gormod o anghyfleustra i bobl yr ardal.”
 
Cefnogir y gwaith gan fuddsoddiad Cyngor Sir Ceredigion; Llywodraeth Cymru drwy Chwaraeon Cymru; a Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a weinyddir ac a gefnogir gan Gynnal y Cardi ar ran Cyngor Sir Ceredigion.
 
Hoffai'r Cyngor ddiolch am eich amynedd a’ch dealltwriaeth wrth i ni weithio i wella eich profiad ym Mhwll Nofio Llambed.
 
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt 01545 570 881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk.

Bydd diweddariadau ar gynnydd y gwaith yn cael eu postio ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor: @CeredigionActif neu Tudalen Facebook drwy chwilio am HamddenLlambedLeisure.