Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Prosiect Cyflogaeth â Chymorth Lleol yn helpu preswylydd Ceredigion i gael swydd werth chweil

Ymunodd Aeron, 44 oed o Dregaron, â'r prosiect 'Cyflogaeth a Chymorth Lleol' (CChLl) yn 2024, ar ôl iddo golli ei gyflogaeth o 20 mlynedd o ganlyniad i broses diswyddo.

Penodwyd Misha, Mentor Cymorth Cyflogadwyedd i CChLl i Aeron. Yn dilyn sgyrsiau anffurfiol gyda Misha, darganfuwyd byddai Aeron yn hoffi gweithio mewn swydd debyg i’w gyflogaeth flaenorol - swydd ble oedd yn gallu helpu wrth fod yn rhan o dîm gwerthfawr i gryfhau ei sgiliau a chymdeithasu gyda phobl, sy'n rhywbeth y mae'n ei fwynhau yn fawr. Yn hytrach na swydd llawn amser, roedd Aeron yn chwilio am weithle oedd yn gallu ffitio o amgylch ei fywyd personol.

Gan fod y prosiect wedi'i deilwra i gefnogi pobl ag Awtistiaeth ac/neu Anawsterau Dysgu, darparodd Misha cefnogaeth ychwanegol i helpu Aeron yn y meysydd lle nad oedd yn teimlo'n hyderus, fel cysylltu â chyflogwyr, a chwblhau ffurflenni.

Cofrestrodd Aeron ar gynllun ‘Profiad Gwaith â Thâl’, a llwyddodd i gael profiad gwaith â thâl yn y lleoliad cymunedol lleol ‘Hwb Penparcau’ am dri mis. Roedd Aeron yn ffitio i mewn yn dda iawn gyda’r tîm a daeth yn aelod gwerthfawr o staff.

Unwaith y daeth y profiad gwaith i ben, dechreuodd ei Fentor Misha, gysylltu â chyflogwyr newydd tebyg i ddod o hyd i swydd i Aeron gyda’i brofiad newydd. Yn fuan iawn, dechreuodd Aeron weithio yn ‘CK’s’ Waun Fawr, Aberystwyth ac mae dal i fod yn hapus yn gweithio yno misoedd yn ddiweddarach.

Dywedodd Misha, Mentor CChLl: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gydag Aeron a’i gefnogi i gael gwaith. Mae Aeron yn berson amyneddgar a deallus iawn ac mae ganddo sgiliau gyfathrebu rhagorol. Pan dwi’n ei weld yn y gwaith, mae’n edrych yn gyfforddus ac yn hapus. Mae Aeron yn berson cymdeithasol gyda llawer o gryfderau. Mae wedi bod yn wych i'w weld yn dychwelyd i gyflogaeth. Mae ‘CK’s; Aberystwyth wedi bod yn wych i weithio gydag ac rydw i wedi cael profiad cadarnhaol iawn wrth ddelio â’r Rheolwyr.”

Y Cynghorydd Wyn Thomas yw'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Ddysgu Gydol Oes a Sgiliau. Dywedodd: “Mae Aeron yn dangos i ni sut gall y gefnogaeth gywir effeithio'n gadarnhaol ar fywydau pobl. Da iawn Aeron. Rwyf wrth fy modd dy fod wedi gallu dod o hyd i gyflogaeth rwyt ti'n mwynhau sy'n cyd-fynd a dy fywyd personol. Pob hwyl i ti i'r dyfodol.”

I gael gwybod mwy am y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu yng Ngheredigion, e-bostiwch TCC-EST@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01575 570881.

Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgareddau drwy ddilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol: Cymorth Gwaith Ceredigion Work Support ar Facebook and @CymorthGwaithCeredWorkSupport ar Instagram.