
Pennod newydd i Lyfrgell Aberaeron
Mae gwaith yn ei gamau olaf i gynnig cyfleusterau gwell mewn gofod croesawgar newydd i Lyfrgell Aberaeron.
O ddydd Sadwrn 01 Tachwedd 2025, bydd Llyfrgell Aberaeron yn symud i Benmorfa, a gellir dod o hyd iddi ar lawr gwaelod adeilad Cyngor Sir Ceredigion. Bydd y lleoliad newydd yn fodern a hygyrch, wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion defnyddwyr llyfrgell o bob oed. Gall pawb edrych ymlaen ddewis ehangach o lyfrau a deunyddiau, gan gynnwys argraffydd 3D a Gofod Gwneud pwrpasol, ardaloedd cyfforddus i ddarllen ac astudio a digon o le i fod yn rhan o weithgareddau cymunedol.
Bydd y llyfrgell yn cau yn ei lleoliad presennol yn Neuadd y Sir Aberaeron o ddydd Gwener, 24 Hydref, ymlaen i baratoi ar gyfer y symud a bydd ynghau tan ddydd Gwener 31 Hydref er mwyn galluogi staff i symud yr holl lyfrau ac adnoddau. Bydd unrhyw lyfrau sydd angen eu dychwelyd o fewn y cyfnod hwnnw yn cael eu hymestyn yn awtomatig, neu gallwch eu dychwelyd i unrhyw lyfrgell sirol arall yng Ngheredigion.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin M. S. Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: "Mae symud y Llyfrgell yn golygu mwy na newid cyfeiriad yn unig. Bydd y cartref newydd yn cynnig yr un gwasanaethau sef benthyca a phori drwy’r llyfrau a'r adnoddau digidol ond bydd llawer mwy yno. Mwy o le i ddefnyddio’r cyfrifiaduron a chael blas ar yr holl lyfrau, mwy o le i gymdeithasu, i ddysgu ac i astudio ond hefyd i fod yn greadigol. Bydd y gofod yn fwy hygyrch, yn fywiog a chynhwysol a rydw i’n falch ein bod yn gallu cynnig llyfrgell fel hon i bobl Aberaeron a’r cylch.”
Ariannwyd y prosiect o adleoli Llyfrgell Aberaeron yn rhannol gan Grant Cyfalaf Trawsnewid gwerth £212,016 gan Lywodraeth Cymru. Mae'r grant hwn yn rhan o raglen Grant Cyfalaf Trawsnewid Diwylliannol, sy'n cefnogi llyfrgelloedd cyhoeddus, amgueddfeydd lleol, a gwasanaethau archif yng Nghymru. Mae'r rhaglen yn helpu'r sefydliadau hyn i foderneiddio eu cyfleusterau, gwella gwasanaethau, gweithio ar y cyd, a gwasanaethu eu cymunedau'n well.
Dywedodd Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant: "Mae llyfrgelloedd wrth wraidd ein cymunedau, gan ddarparu mannau hanfodol ar gyfer dysgu, creadigrwydd a chysylltu. Bydd ein cefnogaeth i'r prosiect cyffrous hwn yn helpu i greu llyfrgell fodern, hygyrch a fydd yn gwasanaethu pobl Aberaeron am genedlaethau i ddod. Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod gan gymunedau ledled Cymru fynediad at wasanaethau llyfrgell o ansawdd uchel sy'n diwallu eu hanghenion sy'n esblygu."
Mae'r adleoli hefyd yn cefnogi ymrwymiad y Cyngor i gynaliadwyedd a defnydd effeithlon o adeiladau cyhoeddus, gan sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu mewn ffordd sydd o fudd i drigolion a'r amgylchedd. Mae opsiynau ar gyfer newid defnydd Neuadd y Sir yn cael eu hystyried a byddant yn destun ymgynghoriad â rhanddeiliaid maes o law.
Bydd Llyfrgell Aberaeron ym Mhenmorfa yn agor ddydd Sadwrn 01 Tachwedd 2025 am 10:00yb, ac estynnwn wahoddiad i chi i ymweld ac archwilio'r gofod newydd. P'un a ydych chi’n aelod yn barod ac yn benthyg yn rheolaidd, neu’n aelod newydd – mae rhywbeth yma i bawb.
I gael rhagor o wybodaeth am lyfrgelloedd Ceredigion, ac i bori'r catalog, ewch i: Llyfrgell Ceredigion - Ceredigion County Council.
Cliciwch ar y ddolen hon i gael y cipolwg cyntaf ar sut olwg fydd ar y llyfrgell newydd
Gallwch hefyd ddilyn Llyfrgell Ceredigion ar Facebook ac Instagram am ragor o ddiweddariadau.