Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Pencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds yn dod i ben ar ôl diwrnodau llwyddiannus yng Ngheredigion

Daeth Pencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds yng Ngheredigion i ben ddydd Sul (29ain) ar ôl tri diwrnod o rasio cyffrous yn y Ras yn erbyn y Cloc, y Ras Gylchffordd a Ras y Ffordd.

Dechreuodd y Pencampwriaethau yn Aberaeron ddydd Iau (26ain) a daeth y torfeydd allan i weld pedwar pencampwr yn cael eu coroni yn y Ras yn erbyn y Cloc. Llwyddodd y Gymraes Zoe Backstedt i blesio’r dorf leol ar y bore agoriadol wrth iddi ennill y gystadleuaeth elît i ferched gan orffen o flaen Anna Henderson a Pfeiffer Georgi. Felly daw’r crys coch, gwyn a glas yn ôl i Gymru. 

Enillodd Ethan Hayter ei drydedd goron genedlaethol yn y Ras yn erbyn y Cloc i ddynion elît, a daeth llwyddiant dan 23 i Millie Couzens a Callum Thornley.

Ym mhencampwriaethau’r Gylchffordd nos Wener bu rasio tanbaid ar strydoedd canol tref Aberystwyth wrth i Kate Richardson a Cameron Mason ddod i'r brig ac ennill crysau’r pencampwr cenedlaethol am y tro cyntaf. 

Ar y diwrnod olaf, Aberystwyth oedd yn serennu unwaith eto wrth i rasys y ffordd gael eu cynnal drwy’r dydd. Cipiodd Millie Couzens a Samuel Watson y ddwy goron elît drwy orffen yn gyntaf ar lan môr Aberystwyth. 

Wrth edrych yn ôl ar y cystadlu, dywedodd Jonathan Day, Rheolwr Gyfarwyddwr Digwyddiadau British Cycling: “Mae Pencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds wedi bod yn wych gyda thri diwrnod o rasio anhygoel yng Ngheredigion. Mae Aberaeron ac Aberystwyth wedi bod yn ganolfannau gwych i'r digwyddiad mawreddog hwn gan ddarparu cyrsiau rhagorol i'r beicwyr, ac mae hyn wedi arwain at rasys cyffrous dros y dyddiau diwethaf. 

"Yn fwy na dim, mae digwyddiadau fel hyn yn dangos gwaddol a dylanwad cynnal Pencampwriaethau yn yr ardal. Rydym wedi gweld llawer o bobl ifanc allan ar y cyrsiau yn annog y beicwyr dros y dyddiau diwethaf ac yn gweld beicwyr gorau'r wlad yn gwibio heibio iddynt. Mae'r gefnogaeth wedi bod yn wych felly hoffem estyn diolch i Lywodraeth Cymru, Cyngor Ceredigion, a'r rhanddeiliaid i gyd a gynorthwyodd â’r gwaith o gyflawni Pencampwriaethau llwyddiannus.” 

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am Chwaraeon, Jack Sargeant: "Roedd yn bleser gwirioneddol croesawu Pencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds i Gymru yr wythnos diwethaf. Llongyfarchiadau i Geredigion ar drefnu digwyddiad mor fawreddog mor dda. Mae llwyddiant Cymru yn y ras elît yn erbyn y cloc i ferched gyda buddugoliaeth fawr Zoe Backstedt, ynghyd â phresenoldeb dros 200 o bobl ifanc mewn digwyddiadau cymunedol cysylltiedig, wedi helpu i ysbrydoli cynulleidfa newydd i fwynhau beicio.

"Mae'r bencampwriaeth hon wedi cynnig cyfle cyffrous i weld y genhedlaeth nesaf o dalent o Brydain a Chymru yn cystadlu, wrth i ni barhau i baratoi i drefnu un o gymalau'r Tour de France yn 2027. Mae digwyddiadau fel hyn yn arddangos Cymru fel lleoliad o safon fyd-eang ar gyfer beicio ac yn dangos yr effaith gadarnhaol y gall chwaraeon ei chael ar ein cymunedau."

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion:"Roedd yn bleser cynnal Pencampwriaethau British Cycling yma yng Ngheredigion, a rhoi ein sir ar y llwyfan mawr fel lleoliad arbennig ar gyfer digwyddiadau mawreddog o'r radd flaenaf fel y rhain.

“Daeth beicwyr proffesiynol o bell ac agos i herio heolydd Ceredigion, ffyrdd a oedd yn cynnig y cydbwysedd perffaith o fod yn her ond hefyd yn bleserus iawn. Yn ogystal roedd hi’n braf gweld cymaint o bobl yn ymweld â'n sir ac yn cael blas ar yr holl bethau sydd gan ein busnesau lleol i'w cynnig. Llongyfarchiadau i bawb a oedd yn rhan o'r digwyddiad.”