Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Mynd i'r afael â gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd yng Ngheredigion

Mae cynllun yn cael ei ddatblygu i osod Camerâu Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) mewn lleoliadau strategol ledled ucheldir ucheldiroedd Ceredigion i atal y gweithgaredd peryglus ac anghyfrifol hwn.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed-Powys a Chyfoeth Naturiol Cymru ar y fenter hon i helpu i fynd i’r afael â mater gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: “Mae’r defnydd anghyfreithlon o hawliau tramwy a gyrru ar dir yn gyffredinol heb awdurdod neu esgus cyfreithlon yn broblem sydd wedi bodoli ers amser, ac mae’r broblem yn gwaethygu. Mae’r defnydd anghyfreithlon hwn yn effeithio ar bobl sydd am fwynhau cefn gwlad mewn modd cyfreithlon, trwy niweidio wyneb llwybrau, gan arwain at ddirywiad amgylcheddol, creithio’r dirwedd, a difrod i eiddo preifat.”

Bydd defnyddio teledu cylch cyfyng yn targedu rhywfaint o'r ymddygiad anghyfreithlon a gwrthgymdeithasol hwn yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt waethaf ac yn anfon neges at y rhai a allai fod yn ystyried cymryd rhan mewn gweithgareddau o'r fath.

Dywedodd PC Jonathan Thomas, Cwnstabl Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Dyfed-Powys: “Mae Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Dyfed-Powys yn falch o fod yn rhan o’r ymdrech gydweithredol hon i fynd i’r afael â gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd. Rydym yn deall yr effaith y mae’r ymddygiad anghyfreithlon a gwrthgymdeithasol hwn yn ei chael ar drigolion lleol a’r rhai sy’n ymweld â Cheredigion i fwynhau’r ardal wledig. Rydym yn hyderus y bydd y fenter CCTV hon yn cryfhau ein gallu i ddelio â’r rhai sy’n gyfrifol am yr ymddygiad annerbyniol hwn. Bydd ein timau’n parhau i gymryd rhan mewn patrolau a gweithrediadau rheolaidd i sicrhau y gall trigolion ac ymwelwyr fwynhau cefn gwlad yn ddiogel.”

Mae llawer o fanteision i yrru yng nghefn gwlad, gyda chyfleoedd diogel a chyfreithiol i'r rhai sy'n dewis gwneud hynny'n gyfrifol. Gall cyrff cysylltiedig gan gynnwys Green Lane Association (GLASS), Land Access Recreation Association (LARA) a Trail Rider Fellowship (TRF), ddarparu cyngor ac arweiniad pellach i'r rhai sydd â diddordeb yn y gweithgareddau hyn.

Am fanylion pellach, ffoniwch Gwasanaethau Cwsmeriaid Clic ar 01545 570 881 a gofynnwch am Hawliau Tramwy Cyhoeddus.