Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Llwyddiant Rhaglen Gwyliau’r Haf

Bu Rhaglen Gwyliau’r Haf 2025 Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer plant, pobl ifanc, teuluoedd a phobl hŷn yn llwyddiant ysgubol.

Cyflwynwyd y rhaglen o weithgareddau gan Borth Cymorth Cynnar y Cyngor, sef y gwasanaethau integredig sy’n darparu cymorth cynnar, cefnogaeth a gwasanaethau atal.

O anturiaethau awyr agored a gweithdai creadigol i sioeau lles a chefnogaeth dargededig, crëwyd y rhaglen i hybu iechyd meddyliol a chorfforol cadarnhaol a chryfhau cysylltiadau cymunedol.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer Llesiant Gydol Oes: “Mae’r haf hwn wedi bod yn esiampl ddisglair o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd gwasanaethau’n gweithio gyda gweledigaeth unol. Mae ein gweithwyr ieuenctid, gweithwyr teuluol a swyddogion Canolfannau Lles wedi mynd y tu hwnt er mwyn creu mannau diogel a chefnogol i’n trigolion. Mae adborth teuluoedd wedi bod yn hynod o gadarnhaol.”

Darparodd y gwasanaeth ieuenctid 19 diwrnod o weithgareddau ac anturiaethau, gan gynnwys teithiau preswyl i Alton Towers a syrffio yn Borth. Cymerodd 156 o bobl ifanc ran yn y gweithgareddau. 

Yn ogystal â’n darpariaeth gyffredinol am ddim i drigolion Ceredigion, bu timau penodol fel Cyfiawnder Ieuenctid a Chymorth Cynnar yn cadw mewn cysylltiad wythnosol mewn lleoliadau cymunedol ac ar y ffôn gyda phlant, oedolion a theuluoedd. Cafodd y gweithgareddau eu cynnal mewn nifer o leoedd gan gynnwys Llanbedr Pont Steffan, Aberystwyth, Aberteifi a chymunedau gwledig, gyda chludiant a bwyd ar gael i sicrhau hygyrchedd.

Dywedodd person ifanc a gymerodd ran yn y ddarpariaeth gwyliau’r haf: “Roedd yn hollol anhygoel ac roedd yr holl staff yn wych fel bob amser.”

Dywedodd Gavin Witte, Cydlynydd Gwaith Ieuenctid Cymunedol ac Atal: “Gwelsom deuluoedd yn ailgysylltu, plant yn ennill hyder, a rhieni’n teimlo eu bod wedi’u cefnogi. Helpodd y sesiynau ar y cyd a gynhaliwyd gennym gyda Gwasanaethau eraill y Cyngor i bontio bylchau ac adeiladu ymddiriedaeth. Mae wedi bod yn haf o dwf i bawb a oedd yn rhan ohono.”

Hoffai Cyngor Sir Ceredigion ddiolch i’r holl bartneriaid, staff, pobl ifanc, teuluoedd a gwirfoddolwyr a wnaeth yr haf hwn yn brofiad cadarnhaol. Mae cynlluniau eisoes ar y gweill i adeiladu ar y llwyddiant hwn ar gyfer gwyliau ysgol yn y dyfodol.

 

#
#
#
#
#
#
#
#
#

I ddysgu mwy am Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, ewch i: Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion - Cyngor Sir Ceredigion

Dilynwch y Gwasanaeth Ieuenctid ar Facebook, Instagram ac X (@GICeredigionYS).