Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Llwyddiant i raglenni haf Bwyd a Hwyl Ysgolion Ceredigion eto eleni

Cymerodd 231 o ddisgyblion Ceredigion ran yng Nghynllun Bwyd a Hwyl y Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yr haf hwn.

Unwaith eto eleni, bu Ysgol Comins Coch, Ysgol Gymunedol Plascrug, Ysgol Llwyn yr Eos, Ysgol Bro Pedr, Ysgol T Llew Jones ac Ysgol Gynradd Aberteifi yn cynnal y rhaglen yn eu hysgolion yn ystod gwyliau’r haf.

Mae’r Cynllun Bwyd a Hwyl, sef menter a ariennir gan CLlLC, yn rhaglen addysg yn yr ysgol sy’n darparu addysg am fwyd a maeth, gweithgarwch corfforol, sesiynau cyfoethogi a phrydau bwyd iach i blant, yn rhad ac am ddim, yn ystod gwyliau’r haf.

Bu’r chwe ysgol yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion a Thîm Dieteteg Bwrdd Iechyd Hywel Dda, er mwyn croesawu dros 200 o blant ynghyd â’u teuluoedd i ymuno yn cynllun yn ystod yr haf. Rhedodd bob rhaglen am dair wythnos, gan gynnig amserlen gyffrous o weithgareddau a phrydau iach i’r plant. Ar ddiwedd pob wythnos, roedd cyfle i deuluoedd ymuno â’u plant yn yr ysgol am ginio teulu. Cymerodd y disgyblion ran mewn gweithgareddau megis pêl-droed, chwaraeon aml-sgiliau, hoci, rygbi, criced, dawns, celf a chrefft, crefftau natur, garddio, chwarae, cwrdd ag adar ysglafaethus a mwy.

Dywedodd Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae’n wych clywed bod plant ar draws y sir wedi cael cymaint o hwyl tra’n mynychu’r rhaglenni bwyd a hwyl eleni. Roedd y cinio teulu hefyd yn llwyddiant ym mhob ysgol, gyda bron i 200 o rieni yn ymuno am ginio blasus bob wythnos. Roedd y cynllun yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i blant gael hwyl, cymdeithasu a dysgu am eu hiechyd a'u lles. Mae’r cynllun hwn wedi bod yn llwyddiannus wrth bontio’r bwlch ar gyfer llawer o ddisgyblion dros wyliau’r haf ac mae’n dda gweld cymaint o blant a phobl ifanc yn elwa.”

Dywedodd Emily Evans, Cydlynydd Cynllun Bwyd a Hwyl Ysgol Gynradd Aberteifi: “Roedd yn wych gallu cynnig y cynllun Bwyd a Hwyl i ddisgyblion Ysgol Gynradd Aberteifi yn ystod gwyliau’r haf eto eleni. Roedd hefyd yn braf gweld rhai o deuluoedd yr ysgol yn ymuno am giniawau teulu fel rhan o’r cynllun, a’r plant yn mwynhau brecwast a chinio maethlon bob dydd. Yn aml gall gwyliau’r haf deimlo fel amser hir i blant ac felly gwelsom werth mewn rhedeg y cynllun hwn i deuluoedd. Cafodd disgyblion o flwyddyn 3 i 6, gyfle i ddysgu sgiliau a chael profiadau newydd gyda’u ffrindiau. Bu’r staff yn brysur yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau diddorol i’r plant gan gynnwys celf a chrefft, coginio a blasu bwydydd newydd, STEM a chwaraeon amrywiol.”

Dywedodd plentyn a fynychodd y rhaglen mewn un ysgol: “Diolch i'r holl staff am amser hyfryd. Fy hoff ran oedd chwarae pêl foli a dysgu am faeth.”

Dywedodd un rhiant: “Rhaglen arbennig! Mae wedi helpu hyder fy mhlant yn fawr, yn enwedig o ran dewisiadau bwyd. Mae'r diwrnod teuluol yn syniad gwych. Mae'r bwyd yn flasus! Diolch i'r holl staff.”

Ychwanegodd riant arall: “Mae fy merch yn mwynhau gwneud pethau newydd gyda chefnogaeth yr ysgol. Mae bod yma wedi ei gwneud hi'n hapus ac mae hi wedi darganfod gemau a sgiliau newydd i fwynhau a'u cymryd gyda hi i'r flwyddyn ysgol newydd. Cynllun gwych!”

Hoffai’r Cyngor Sir ddiolch i’r holl ddarparwyr a fu ynghlwm â’r gweithgareddau, i Wasanaeth Arlwyo’r Awdurdod Lleol am baratoi brecwast a chinio iach a blasus yn ddyddiol ar gyfer y plant a’u teuluoedd, i dîm dietegyddol Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ac i’r chwe ysgol a’u staff a fu’n rhedeg y rhaglen, am eu gwaith caled yn paratoi’r cyfle gwerthfawr hwn i’w disgyblion o fewn eu cymunedau unwaith yn rhagor eleni. 

 

#
#
#
#