
Llwyddiannau Safon Uwch yng Ngheredigion
Mae’r canlyniadau Safon Uwch a gyhoeddwyd heddiw gan CBAC yn dangos bod ysgolion Ceredigion yn cyrraedd safonau uchel.
Mae 98% o’r ymgeiswyr a safodd arholiadau CBAC wedi derbyn graddau A*-E; 80% wedi ennill graddau A*-C; 56% wedi ennill graddau A*-B a 33% yn ennill graddau A*-A.
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: "Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr ar eu canlyniadau Safon Uwch, BTEC, ac UG rhagorol. Mae eich gwaith caled, eich ymroddiad a'ch gwytnwch wedi talu ar ei ganfed. Mae pob un ohonoch wedi dangos penderfyniad ac ymrwymiad rhyfeddol, ac rydym yn hynod falch o'ch cyflawniadau.
“Mae’r canlyniadau hyn yn dyst o’ch dyfalbarhad a chefnogaeth eich teuluoedd/gwarchodwyr, athrawon, a ffrindiau. Wrth i chi gymryd y camau nesaf yn eich teithiau addysgol a phroffesiynol, cofiwch mai megis dechrau yw hyn. Bydd y sgiliau a’r wybodaeth yr ydych wedi’u hennill yn sylfaen gadarn ar gyfer eich ymdrechion yn y dyfodol.
"Dymuniad da i bawb ar ba bynnag benderfyniad byddwch yn ei wneud ar gyfer eich dyfodol, bydd yna wastad groeso cynnes i chi yng Ngheredigion, p'un a ydych chi am aros yma neu ddychwelyd i'r Sir.”
Mae’r tabl canlynol yn nodi’r ffigurau cymharol. Nid yw'r canlyniadau hyn yn cynnwys Bagloriaeth Cymru. Mae ffigurau Cymru yn cynnwys pob bwrdd arholi tra bod ffigurau Ceredigion yn cynnwys CBAC yn unig.
Ceredigion | Cymru | |
Gradd A*-A |
33% |
29% |
Gradd A*-B |
56% |
n/a |
Gradd A*-C |
80% |
n/a |
Gradd A*-E |
98% |
97% |
Ychwanegodd Elen James, Prif Swyddog Addysg Ceredigion: “Hoffwn ymfalchio unwaith eto eleni yn llwyddiant holl ddysgwyr Ceredigion ar ganlyniadau Safon Uwch, BTEC ac UG gwych. Llongyfarchiadau i’r disgyblion am eu hymroddiad a’u dyfalbarhad. Mae wir yn bleser gweld canlyniadau mor gadarnhaol sy’n dyst i’w holl waith caled.
"Hoffwn ddiolch i’r holl athrawon a staff am eu hymrwymiad a’u hymroddiad wrth baratoi a chefnogi’r dysgwyr mor drylwyr ar gyfer y cymwysterau hyn. Diolch hefyd i’r dysgwyr am eu hymdrechion arbennig ac i’w teuluoedd/gwarchodwyr am eu cefnogaeth gyson.
Dymunwn y gorau i bob un o’r dysgwyr wrth iddynt gymryd y camau nesaf cyffrous yn eu gyrfaoedd, boed hynny yn astudio gradd mewn Prifysgol, yn dilyn cwrs prentisiaeth neu’n ymuno â’r byd gwaith."
Dymuniadau gorau i'r holl ddisgyblion ar gyfer y dyfodol.