
JDS Machinery Rali Ceredigion 2025: Ffyrdd Newydd, Cyffro Mawr a Hwyl i'r Teulu
Bydd JDS Machinery Rali Ceredigion yn dychwelyd rhwng 5 a 7 Medi 2025, gan addo penwythnos cyffrous o chwaraeon moduro wedi'i osod yn erbyn cefndir trawiadol Ceredigion a Phowys.
Bellach wedi'i sefydlu'n gadarn fel uchafbwynt Calendrau Pencampwriaeth Rali Ewrop FIA a Phencampwriaeth Rali Prydain Probite, mae'r digwyddiad eleni yn cynnwys camau newydd a diwygiedig, gydag adrannau cystadleuol yn barod i herio criwiau tra'n cynnig cyffro i gefnogwyr a gwylwyr.
Rhoddodd digwyddiad y llynedd hwb sylweddol i'r economi leol, gan gynhyrchu amcangyfrif o £4.6 miliwn mewn gwariant uniongyrchol ac anuniongyrchol ar draws Ceredigion a Phowys, gyda busnesau yn nodi rhagor o ymwelwyr, arhosiad dros nos, a gwariant ymwelwyr.
Gan ddychwelyd gyda'i gymysgedd o rali o safon fyd-eang ac ysbryd cymunedol, bydd y digwyddiad yn lansio ar ddydd Gwener, 5 Medi, o bromenâd Aberystwyth gyda dechrau seremonïol, sioe rali a sesiynau llofnod. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn a dydd Sul, gyda llwyfannau newydd sbon yng Nghwm Elan a Llwyfan Pŵer diwygiedig yn agos at Bontarfynach.
Gall gwylwyr ddisgwyl profiad llawn adrenalin eleni, gyda mynediad am ddim i blant ar lwyfan Aberystwyth a phrisiau car ar draws parthau cefnogwyr. Bydd rhaglen Rali Engage hefyd yn dychwelyd, y tro hwn wedi'i lleoli ar y bandstand ar bromenâd Aberystwyth, gan ddod â gweithgareddau yn agosach at galon y dref.
Bydd gweithgareddau a chystadlaethau ymgysylltu ysgolion unwaith eto yn rhan o’r paratodau ar gyfer y digwyddiad, ochr yn ochr ag allgymorth busnes a diweddariadau cymunedol.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: "Rydym yn falch o groesawu JDS Machinery Rali Ceredigion yn ôl. Mae'r rali nid yn unig yn ddathliad o chwaraeon moduro, ond hefyd yn ddigwyddiad arwyddocaol i'n heconomi a'n cymunedau lleol. Mae'n dod â thrigolion ynghyd ar gyfer penwythnos o gyffro a balchder rhanbarthol."
Mae Rali Ceredigion yn parhau i arwain y ffordd ym maes chwaraeon moduro cynaliadwy, gyda mentrau ynghylch tanwydd rasio carbon isel ac un o raglenni gwrthbwyso carbon mwyaf y byd ar gyfer digwyddiadau rali - gan ddal mwy o garbon nag y mae'r digwyddiad yn ei gynhyrchu. Dyma'r unig rali yn y DU i ddal achrediad amgylcheddol mawreddog yr FIA a hi oedd y cyntaf i gyflwyno dosbarth pwrpasol ar gyfer cerbydau trydan.
Dywedodd Charlie Jukes, Cyfarwyddwr Digwyddiadau Rali Ceredigion: "Rydym wrth ein bodd i fod yn adeiladu ar lwyddiant y llynedd. Gyda llwybr wedi'i adnewyddu, parthau cefnogwyr newydd, a chyfranogiad cymunedol cryfach, mae JDS Machinery Rali Ceredigion 2025 yn datblygu i fod ein digwyddiad mwyaf cynhwysol a chyffrous eto."
Bydd y llwybr llawn yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf i helpu trigolion ac ymwelwyr i gynllunio ymlaen llaw. Yn y cyfamser, mae ymgysylltu cynnar yn dechrau nawr gydag ymweliadau ysgol a chyfathrebu â busnesau lleol, Anogir unrhyw fusnesau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan neu hyrwyddo JDS Machinery Rali Ceredigion i gysylltu â threfnwyr y digwyddiad. Mae'n gyfle gwych i arddangos y rhanbarth a thynnu sylw at effaith economaidd a thwristiaeth y rali.
Am ddiweddariadau, ewch i www.raliceredigion.co.uk neu dilynwch #RaliCeredigion2025 ar y cyfryngau cymdeithasol.