Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Hud Parêd Llusernau Enfawr Aberteifi yn dychwelyd

Mae Theatr Byd Bach yn falch iawn o gyhoeddi dychweliad Parêd Llusernau Mawr Aberteifi ddydd Gwener 5 Rhagfyr, gan ddod â golau, creadigrwydd ac ysbryd cymunedol i’r dref.

Mae thema’r ŵyl eleni, sef Eisteddfod y Garreg Las, yn addo dathliad ysblennydd wedi’i ysbrydoli gan gerddoriaeth, barddoniaeth a threftadaeth ddiwylliannol Cymru.

“Mae eleni ar fin bod yn uchafbwynt arall i’r tymor,’ meddai Ann Shrosbree, Cyfarwyddwr ac artist yn Theatr Byd Bach. ‘Rydym wedi bod yn brysur yn gwneud llusernau gydag ysgolion lleol, siopau, busnesau a’r cyhoedd drwy gydol y mis. Rydym yn creu llusernau mawr wedi’u hysbrydoli gan yr ŵyl, felly disgwyliwch weld cigfrain yn dawnsio, offerynnau cerdd, coronau, cadair, a mwy.“

Bydd yr Orymdaith yn cychwyn o Bendre am 7pm, dan arweiniad y grŵp drymio Samba Doc, cyn teithio i lawr Stryd Fawr Aberteifi tua’r Cei, lle bydd arddangosfa tân gwyllt sŵn isel yn digwydd rywbryd rhwng 7.30pm ac 8pm. Yna bydd yr orymdaith yn parhau tuag at Neuadd y Dref, gan orffen tua 8.15pm.

Mae digwyddiad eleni yn rhan o Ŵyl y Golau, a grëwyd gan Theatr Byd Bach i wella awyrgylch Nadoligaidd Aberteifi ac ychwanegu at oleuadau Nadolig y dref. Bydd cerfluniau llusernau enfawr a gosodiadau golau yn goleuo adeiladau allweddol, tra bydd Llwybr Goleuadau yn tywys ymwelwyr trwy brofiad hudolus ar ôl iddi nosi.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros Economi ac Adfywio: “Dechreuodd Parêd Llusernau Enfawr Aberteifi gyntaf yn 2016 ac mae’n enghraifft wych o sut mae Aberteifi, tref creadigrwydd a diwylliant, yn dod â phobl ynghyd. Mae digwyddiadau fel hyn yn dathlu ein treftadaeth ac yn arddangos ysbryd bywiog Ceredigion. Rydym yn falch o gefnogi mentrau fel hyn o dan ein strategaeth economaidd, nid yn unig i amlygu Aberteifi fel man geni’r Eisteddfod Genedlaethol ond hefyd i helpu denu gweithgarwch economaidd. Mae hyn yn bosibl diolch i’r arddangosfeydd golau sy’n para am fis ar adeiladau amrywiol a’r llusernau ffenestri siopau yn y nifer uchel o siopau annibynnol ledled Aberteifi.”

Mae’r parêd a’r ŵyl yn cael eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU trwy Gronfa Gymunedol Cynnal y Cardi, a weinyddir gan Gyngor Sir Ceredigion. Darparwyd cefnogaeth ychwanegol gan Arian i Bawb a Chyngor Tref Aberteifi.

Meddai Mair Bell, Cyfarwyddwr Theatr Byd Bach: “Rydym yn gwybod y bydd Llwybr Gŵyl y Goleuadau a Parêd Llusernau Mawr Aberteifi yn brofiadau hudolus i bawb. Rydym yn gobeithio am noson sych ar 5 Rhagfyr fel y gallwn roi’r croeso cynnesaf posibl i’r miloedd o bobl sy’n heidio i’r dref bob blwyddyn.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i creativecardigan.com neu small-world.org.uk.

04/12/2025