
Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn (ERS) i Gyngor Sir Ceredigion
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi derbyn Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) yn gydnabyddiaeth am y gwaith o ddarparu cefnogaeth a chymorth i Gymuned y Lluoedd Arfog.
Gan weithio mewn partneriaeth ag aelodau Fforwm Cymunedol Lluoedd Arfog Ceredigion, nod yr ymdrechion hyn yw sicrhau bod cymuned Lluoedd Arfog Ceredigion yn cael ei chefnogi.
Trwy ei wobrau blaenorol o Efydd ac Arian, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi dangos ei gefnogaeth i Gymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys milwyr wrth gefn, cyn-filwyr, a gwirfoddolwyr oedolion y llu cadetiaid a phriod a phartneriaid y rhai sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, ac wedi gweithredu polisïau ymarferol yn y gweithle. Mae’r Cyngor wedi parhau i sicrhau nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg fel rhan o'i bolisïau recriwtio ac mae’n parhau i sicrhau bod y gweithlu yn ymwybodol o'i bolisïau cadarnhaol.
Mae bellach hefyd yn tynnu sylw at fanteision y gefnogaeth hon i eraill, a'r gwaith hwn sydd nawr wedi tynnu sylw at y cynnydd a wnaed yn ei ddarpariaeth. Mae’r Wobr Aur ERS yn cydnabod cyflogwyr sy'n eiriol am weithredu dros y gymuned Amddiffyn a'r Lluoedd Arfog, gan ddangos ymrwymiad ehangach y tu hwnt i weithwyr unigol.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Ar ran Cyngor Sir Ceredigion, hoffwn ddiolch i bawb sy'n gysylltiedig, am eu hymroddiad a'u gwaith caled parhaus o fewn AFCC Ceredigion i sicrhau bod trigolion cymuned y Lluoedd Arfog yn cael eu cefnogi'n llawn o fewn y sir.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Gwyn James, aelod eiriolwr dros y Lluoedd Arfog: “Ar ôl cael fy mhenodi'n ddiweddar yn aelod eiriolwr dros Luoedd Arfog Ceredigion, rwyf mor falch bod y gwaith a wnawn yma wedi'i gydnabod ledled Cymru. Hoffwn dalu teyrnged i'm rhagflaenydd, y diweddar Gynghorydd Paul Hinge, am ei ymrwymiad a'i gefnogaeth i'r gwaith a diolch hefyd i'n partneriaid am eu hymroddiad o fewn Fforwm AFCC, sydd yn rhagweithiol iawn, ac sy'n ein helpu i gyflawni ein haddewidion cyfamod. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu cyfraniadau unigol a chyfunol wrth ein helpu i gyflawni'r wobr hon.”
Am fwy o wybodaeth am Wobrau ERS yng Nghymru ewch i tudalen Defence Employer Recognition Scheme y Llywodraeth (Saesneg yn unig)