Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gwelliannau i ddwy ysgol yn Aberteifi a Chylch Meithrin yng Nghenarth

Mae dwy ysgol ac un Cylch Meithrin yng Ngheredigion wedi elwa'n ddiweddar o fuddsoddiad gwerth £9 miliwn gan gyllid Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, y Grant Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod, Rhaglen gyfalaf ar gyfer Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar ac Awdurdod Lleol Ceredigion.

 Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Ysgol Uwchradd Aberteifi
  • Ysgol Gynradd Aberteifi
  • Cylch Meithrin Nawmor, Cenarth
#
#
#

Bu Llywodraethwyr, Cynghorwyr a Swyddogion Awdurdodau Lleol yn ymweld ag Ysgol Uwchradd Aberteifi i weld y gwaith a wnaed i drawsnewid yr ysgol uwchradd. Adeiladwyd estyniad i greu bloc addysgu newydd tri llawr yn cynnwys wyth ystafell ddosbarth, tair ystafell TGCh, stiwdio TGCh, toiledau, dwy ystafell i grwpiau bach, tair swyddfa gyfadran a gofod ar gyfer cylchdroi. Crëwyd hefyd stiwdio ddrama bwrpasol a dau labordy gwyddoniaeth newydd o'r radd flaenaf.

Buont hefyd yn ymweld ag Ysgol Gynradd Aberteifi sydd wedi derbyn buddsoddiad sylweddol i wella'r ddarpariaeth gynradd gydag ystafell ddosbarth feithrin newydd, dwy ystafell ddosbarth ychwanegol, bloc cyswllt gydag ystafell staff, toiledau, prif dderbynfa ystafell rieni ac ystafell waith i’r staff.

Roedd yr ymweliad hefyd yn cynnwys taith o amgylch Cylch Meithrin Nawmor, sy’n gyfleuster gofal plant newydd yn Ysgol Gynradd Cenarth. Mae'r lleoliad gofal plant yn cynnig gofal cofleidiol i blant 2–4 oed, lle nad oedd darpariaeth o'r blaen, ac mae'n cynnig darpariaeth Dechrau'n Deg a lleoedd gofal plant a ariennir trwy'r rhaglen Cynnig Gofal Plant 30 awr i Gymru. Ariannwyd y prosiect hwn yn llawn gan Raglen Grant Cyfalaf Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Mudiad Meithrin a'i grant Sefydlu a Symud i sefydlu'r Cylch Meithrin newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ysgolion a Dysgu Gydol Oes: "Mae wedi bod yn wych gweld dysgwyr a staff yn mwynhau eu cyfleusterau newydd o'r radd flaenaf ar draws y tri lleoliad, sef Ysgol Gynradd ac Ysgol Uwchradd Aberteifi, yn ogystal â’r cyfleusterau gwych yng Nghylch Meithrin Nawmor, Cenarth. Diolch yn fawr i bawb a fu’n rhan o wireddu’r gwelliannau hyn, gan sicrhau bod ein dysgwyr yn gallu dysgu a datblygu mewn amgylchedd bwrpasol a chroesawgar."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: “Rwy'n hynod ddiolchgar i bawb a fu'n rhan o ddarparu'r cyfleusterau newydd gwych hyn i bobl ifanc a theuluoedd yn Aberteifi a Chenarth. Mae'r buddsoddiad hwn, trwy ein Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, wedi darparu cyfleusterau modern a chynhwysol sy'n sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad at addysg o ansawdd uchel.

“Mae pob dysgwr yn haeddu ffynnu a chyrraedd ei botensial llawn, a bydd y cyfleusterau hyn yn helpu i sicrhau eu bod yn cael y cyfle hwnnw yma yn eu cymuned leol. Diolch i Gyngor Sir Ceredigion, staff yr ysgol, a'n holl bartneriaid am wneud hyn yn bosibl.”

Agorwyd y tri phrosiect yn swyddogol ar 12 Medi 2025, gan ddarparu amgylcheddau gofal a dysgu modern, cynhwysol ac ynni-effeithlon i blant a phobl ifanc.