
Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn lansio cyfle cyllido newydd ar gyfer Sefydliadau Ieuenctid Gwirfoddol
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi lansio menter gyllido gyffrous newydd wedi’i chynllunio i gefnogi sefydliadau ieuenctid gwirfoddol ar draws y sir i ddarparu prosiectau arwyddocaol dan arweiniad pobl ifanc.
Gyda £40,000 ar gael drwy grantiau a gefnogir gan Gronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, a Grant Cymorth Ieuenctid Llywodraeth Cymru, mae’r cynllun hwn wedi’i lunio’n uniongyrchol gan leisiau pobl ifanc Ceredigion, a bleidleisiodd am eu blaenoriaethau drwy ymgynghoriad ieuenctid ‘Rhoi Dy Farn’.
Gwahoddir prosiectau sy’n canolbwyntio ar themâu allweddol gan gynnwys iechyd meddwl a lles emosiynol, hyrwyddo’r iaith Gymraeg, mannau diogel, cyfleoedd gwaith, a pharatoi pobl ifanc ar gyfer heriau’r byd modern.
Dywedodd Gethin Jones, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion: “Mae’r cyfle hwn yn adlewyrchu lleisiau deinamig pobl ifanc yn ein sir. Maen nhw wedi dweud wrthym ni beth sy’n bwysig iddyn nhw, ac rydym bellach yn gwahodd y sector gwirfoddol i gydweithio i droi’r blaenoriaethau hynny’n weithred. Ein nod yw ariannu prosiectau sy’n gynhwysol, yn arloesol ac yn gynaliadwy, a fydd yn gadael effaith barhaol ar gymunedau ledled Ceredigion.”
Mae’r cyfle cyllido’n agor heddiw, ddydd Mawrth 15 Gorffennaf 2025 ac yn cau ddydd Mawrth 12 Awst 2025. Rhaid cyflwyno pob cais drwy blatfform eTenderWales:
https://etenderwales.bravosolution.co.uk/web/login.shtml
Bydd cymorth ar-lein ar gael i gynorthwyo sefydliadau i gofrestru ac ymgeisio ar y dyddiadau canlynol:
· Dydd Mawrth 29 Gorffennaf, 10:00–11:00yb
· Dydd Gwener 1 Awst, 13:00–14:00
Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Rydym yn falch o gefnogi pobl ifanc i lunio dyfodol eu cymunedau. Mae’r fenter hon wedi’i gwreiddio yn eu profiadau, eu syniadau a’u dyheadau. Rwy’n annog sefydliadau ieuenctid gwirfoddol i ymgeisio ac i gydweithio â ni i ddarparu cyfleoedd ystyrlon ar gyfer ein cenhedlaeth nesaf.”
Bydd y panel grantiau’n cynnwys pobl ifanc a rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau tryloywder ac arwyddocâd trwy gydol y broses. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ddechrau mis Medi.
Am ragor o wybodaeth neu ymholiadau, cysylltwch â Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion drwy ebost ar Ieuenctid@ceredigion.gov.uk