Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn Dosbarthu Pecynnau Lles i Gefnogi Pobl Ifanc dros y Nadolig
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi paratoi 108 o Becynnau Llesiant i ddod â chysur a llawenydd i blant a phobl ifanc sy'n cael cymorth yn y sir ar hyn o bryd.
Y Nadolig hwn, bydd pobl ifanc ledled Ceredigion yn derbyn amrywiaeth o adnoddau sydd wedi'u hanelu at gefnogi iechyd meddwl cadarnhaol, llesiant ac anghenion niwroamrywiol yn ystod tymor yr ŵyl. Mae'r fenter yn cydnabod, er y gall y Nadolig fod yn gyfnod o lawenydd, y gall hefyd ddod â heriau i lawer o bobl ifanc. Mae meddwl y tu ôl i greu’r pecynnau hyn ac maent yn darparu offer ymarferol, eitemau synhwyraidd ac adnoddau calonogol i helpu pobl ifanc i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu cynnwys a'u gofalu amdanynt.
Beth sydd wedi’u cynnwys yn y Pecynnau Llesiant?
- Gweithgareddau ystyriol i annog tawelwch a ffocws
- Eitemau sy'n gyfeillgar i'r synhwyrau ac wedi'u teilwra ar gyfer pobl ifanc niwroamrywiol
- Cefnogaeth i hyrwyddo hunanfynegiant
Trwy gyfuno hwyl, adloniant a chefnogaeth emosiynol, nod y pecynnau yw grymuso pobl ifanc i reoli straen, dathlu eu hunigoliaeth, a chroesawu tymor y gwyliau gyda hyder. Mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yn cynnwys timau amlddisgyblaethol, gyda'r nod cyffredinol o ddarparu dulliau, dan arweiniad plant a phobl ifanc, i alluogi plant a phobl ifanc i gael eu grymuso, i gyflawni, i ddatblygu'n bersonol, yn emosiynol, yn gymdeithasol a bod y gorau y gallant fod.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Ceredigionar gyfer Gydol Oes a Llesiant: "Er bod y Nadolig yn amser bendigedig i’r mwyafrif o bobl, gall fod yn her i bobl ifanc sydd â phryderon iechyd meddwl neu lesiant. Dylid canmol Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion am gydnabod hyn ac am gymryd yr amser i ddarparu adnoddau i helpu. Mae cynnwys y pecynnau wedi’u hanelu at y plant a’r bobl ifanc hynny sy’n derbyn cymorth yn y sir oherwydd ein bod am i bob un ohonynt gael amser pleserus. Dylem hefyd gydnabod y grantiau ariannol a’r cydweithio rhwng partneriaid sydd wedi cyfrannu at y fenter."
Esboniodd Gwenllian Morris, Rheolwr Tîm Gwaith Ieuenctid Cymunedol ac Ataliadau sydd wedi bod yn rhan o drefnu'r pecynnau: "Rydym am sicrhau bod pob person ifanc yng Ngheredigion yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a'u grymuso yn ystod tymor y Nadolig. Rydym wedi gwrando'n ofalus ar bobl ifanc, sy'n defnyddio ein cefnogaeth mewn ysgolion a chymunedau yn ystod yr wythnosau diwethaf, i ddysgu mwy am eu hanghenion a deall yr heriau y gallent fod yn eu hwynebu. Mae'r Pecynnau Llesiant hyn yn adnodd i gefnogi eu hiechyd meddwl a'u hatgoffa nad ydynt ar eu pennau eu hunain a bod cefnogaeth arall ar gael pe bai ei angen arnynt".
Cymerwch ran yn yr arolwg a darganfyddwch fwy yn: Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion - Cyngor Sir Ceredigion
Neu e-bostiwch: ieuenctid@ceredigion.gov.uk
Dilynwch y Gwasanaeth Ieuenctid (Instagram | TikTok | Facebook): @ceredigionifanc
23/12/2025