Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gorchymyn Gwahardd Brys gan y Llys ar gyfer busnes yn Llanbedr Pont Steffan

Mae Llys Ynadon Aberystwyth wedi rhoi Gorchymyn Gwahardd Brys (EPO) ar The Royal Oak Hotel, Llanbedr Pont Steffan, gan wahardd defnyddio’r bar a’r seler.

Mae’r Gorchymyn yn cadarnhau’r camau brys a gymerwyd gan Gyngor Sir Ceredigion i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Dechreuodd tîm Amddiffyn y Cyhoedd y Cyngor ei ymchwiliad ar ôl derbyn cŵyn gan aelod o’r cyhoedd am chwilod duon (cockroaches). Ar ôl ymweliad heb rybudd ar 08 Medi 2025, darganfuwyd olion eang o chwilod duon yn ardal y bar, gan gynnwys pryfed byw a marw ar fyrddau monitro, a gwelwyd un chwilen ddu fyw yn ei llawn dwf. Gwelwyd tystiolaeth o chwilod du yn y seler hefyd. Cytunodd y  busnes bwyd i gau yr ardal far a’r seler yn wirfoddol ar ddiwedd yr ymweliad. Ni nodwyd unrhyw olion o chwilod du yn yr ardaloedd cegin/caffi sy’n ardal ar wahân.

Ar 09 Medi, cadarnhaodd contractwr rheoli plâu annibynnol haint trwm o chwilod du Almaenig (German Cockroach) y tu ôl i’r prif far. Yn unol â’r ddeddfwriaeth a pholisi gorfodi’r Cyngor, rhoddodd y Cyngor Hysbysiad Gwahardd Brys Hylendid (HEPN) y diwrnod hwnnw i wahardd defnyddio’r bar a’r seler tan fod y cyflwr risg i iechyd wedi’i fodloni. Darganfuwyd yn ystod asesiad dilynol ar 16 Medi fod olion yn parhau yn yr ardal far/seler, tra nad oedd yr ardal y gegin/caffi wedi’u heffeithio.

Dywedodd Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet dros Ddiogelu’r Cyhoedd: "Rydym yn croesawu penderfyniad y llys. Pan fydd swyddogion yn canfod risg brys i iechyd, byddwn yn gweithredu ar unwaith. Bydd y Gorchymyn hwn yn sicrhau bod yr ardaloedd dan sylw yn aros ar gau nes bod y plawedi’i ddileu’n llwyr ac y gallwn fod yn sicr bod y risg i’r cyhoedd wedi’i dileu. Rydym yn parhau i weithio gyda’r busnes a’i gontractwr rheoli plâu i gefnogi ailagor diogel ac mewn modd sy'n cydymffurfio gyda'r anghenion cyn gynted ag y bo’n bosibl."

 

Pam mae hyn yn bwysig i iechyd y cyhoedd?

  • Gall chwilod duon halogi bwyd ac arwynebau drwy eu baw, poer a chroen wedi’i fwrw, a gallant ledaenu bacteria megis Salmonela ac E.Coli sy’n achosi salwch gastroberfeddol.
  • Maent yn symud rhwng draeniau/carthffosydd a mannau trin bwyd, gan gynyddu’r tebygolrwydd o drosglwyddo organebau niweidiol i’r amgylchedd bwyd.
  • Gall alergenau o chwilod duon (o rannau’r corff, y baw a’r secretiadau) fynd i’r aer a sbarduno neu waethygu asthma a symptomau anadlol eraill, yn enwedig ymhlith pobl sy’n agored i niwed.

 

Ystyr y Gorchymyn

Mae’r Gorchymyn Gwahardd Brys yn cadarnhau’n gyfreithiol y gwaharddiad ar ddefnyddio’r bar a’r seler yn The Royal Oak Hotel hyd nes y bydd y Cyngor yn cyhoeddi tystysgrif yn datgan nad yw’r amod o ran risg i iechyd bellach yn cael ei fodloni. Ni chanfuwyd bod yr ardaloedd cegin/caffi wedi’u heffeithio.

Cyngor i fusnesau bwyd

Rhaid i fusnesau bwyd gynnal rhaglen atal a monitro plâu effeithiol a sicrhau triniaeth broffesiynol brydlon os ceir tystiolaeth o olion. Pan fo risg sylweddol a brys i iechyd, gall y Cyngor roi HEPN ac ymgeisio am EPO gan y Llys o fewn tri diwrnod gwaith, yn unol â’r ddeddfwriaeth a Pholisi Gorfodi Cyfraith Bwyd y Cyngor.

Adrodd pryderon

Mae'r ymchwiliad hwn wedi dangos gwerth pobl yn y gymuned sy'n adrodd ar faterion o'r fath. Gall aelodau’r cyhoedd adrodd am bryderon hylendid neu ddiogelwch bwyd i clic@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 570881.