Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ethol Cadeirydd newydd Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2025-26

Mae’r Cynghorydd Ann Bowen Morgan wedi’i hethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2025-26 mewn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ddydd Gwener 16 Mai 2025.

 

Councillor Ann Bowen Morgan
Councillor Ann Bowen Morgan

Daw hyn â chyfnod y Cynghorydd Keith Evans i ben fel y Cadeirydd ar gyfer 2024-25.

 

Etholwyd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan i gynrychioli ward Llanbedr Pont Steffan yn 2022. Daw hi’n yn wreiddiol o Benarlâg a’i magu yn y Rhyl, gan fyw am gyfnod ym Mangor, cyn ymgartrefu yn Llanbedr Pont Steffan gyda’i theulu.

Yn y gymuned, mae’n ffigwr blaenllaw ac yn aelod o Gyngor Tref Llanbedr Pont Steffan ers 2013 ac yn Faer y Dref rhwng 2018 a 2019. Mae hefyd yn dal swyddi fel Cadeirydd Cylch Meithrin Pont Pedr; Cadeirydd Pwyllgor Gŵyl Dewi Llanbedr Pont Steffan; Ysgrifenyddes a Diacon yn Noddfa, Eglwys y Bedyddwyr; Ymddiriedolwr Canolfan Deulu; Aelod o bwyllgor Eisteddfod Rhys Tomos James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan; Trefnydd Siop Siarad i Ddysgwyr; a Llywodraethwr Ysgol Bro Pedr. Yn ei gwaith blaenorol bu’n athrawes gynradd yn Ysgol Craig y Don, Llandudno ac yr adran gynradd Ysgol Bro Pedr tan 2014, ynghyd â bod yn Diwtor Cymraeg i oedolion gyda Phrisfysgol Aberystwyth.

Dywedodd y Cadeirydd Ann Bowen Morgan: “Mae'n fraint ac yn anrhydedd dod yn Gadeirydd ac ennill ymddiriedaeth fy nghyd-gynghorwyr. Gobeithio y gallaf lywio cyfarfodydd y Cyngor yn ddoeth a gyda'n gilydd wneud penderfyniadau er budd pobl ein sir. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gynrychioli Cyngor Sir Ceredigion mewn amryw o ddigwyddiadau ar hyd a lled y sir yn ystod y flwyddyn nesaf.” 

Etholwyd y Cynghorydd John Roberts yn Is-gadeirydd.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Hoffwn longyfarch y Cynghorydd Ann Bowen Morgan ar gael ei ethol yn Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd John Roberts yn Is-gadeirydd, a diolch yn ddiffuant hefyd i’r Cynghorydd Keith Evans am ei waith diflino fel y Cadeirydd blaenorol.”

Rôl Cadeirydd y Cyngor yw llywio prif gyfarfodydd y Cyngor Llawn, cynrychioli’r Cyngor mewn digwyddiadau dinesig a seremonïol, a hyrwyddo amcanion y Cyngor.