Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Dweud eich dweud: llunio Polisi Gorfodi Corfforaethol Ceredigion

Mae ymgynghoriad wedi agor i gasglu barn y cyhoedd am Bolisi Gorfodi Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion.

Mae’r polisi drafft yn nodi sut y bydd y Cyngor yn gweithredu gorfodi yn deg, yn gyson ac yn unol â safonau cenedlaethol. Mae’n egluro’r egwyddorion y tu ôl i benderfyniadau gorfodi, gan gynnwys sut y caiff camau eu gwneud i sicrhau tegwch a chymesuredd, pryd y gellir defnyddio erlyniad neu sancsiynau eraill, a sut y caiff cydymffurfiaeth ei chefnogi wrth ddiogelu diogelwch a lles y cyhoedd.

 

Mae’r polisi hefyd yn darparu canllawiau clir ar y ffactorau a ystyrir, megis risgiau i iechyd y cyhoedd, troseddau blaenorol, a difrifoldeb unrhyw niwed, wrth benderfynu ar gamau gorfodi. Mae atodiadau wedi’u cynnwys ar feysydd arbenigol, gan gynnwys Cyfraith Bwyd, Cynllunio, Safonau Tai Preifat a Chydymffurfiaeth Presenoldeb Ysgol, sy’n ategu’r polisi corfforaethol cyffredinol.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae gorfodi yn chwarae rhan hanfodol wrth gadw ein cymunedau’n ddiogel a sicrhau bod y gyfraith yn cael ei dilyn. Mae hefyd yn bwysig i sicrhau tegwch i bob busnes yng Ngheredigion. Ni ddylai’r rhai sy’n torri cornel gael mantais dros fusnesau dilys sy’n cydymffurfio â safonau rheoleiddiol.”

Gallwch ddarllen y polisi drafft a rhannu eich barn ar ein tudalen Ymgysylltu ac Ymgynghori: Polisi Gorfodi Corfforaethol - Cyngor Sir Ceredigion

Mae’r ymgynghoriad ar agor nawr ac yn cau ar 20 Ionawr 2026. Bydd eich adborth yn helpu i lunio’r polisi terfynol cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet ym mis Mawrth 2026.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Tîm Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd.

E-bost: partnerships@ceredigion.gov.uk

Ffôn: 01545 570881

08/12/2025