Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Dweud eich dweud cyn cyllideb nesaf y Cyngor

Mae'r amser wedi dod eto i ddechrau paratoi ar gyfer gosod Cyllideb y Cyngor ar gyfer 2026-27.

Mae gosod cyllideb gytbwys yn ofyniad cyfreithiol, ond gyda chostau cynyddol, mae'n dod yn anoddach bob blwyddyn heb gyfaddawdu ar ein gwasanaethau hanfodol.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi lansio ymgyrch Ymgysylltu â'r Gyllideb i gasglu eich barn ar sut y dylai'r Cyngor wario ei arian a sut i lywio trwy’r heriau ariannol sy'n ein hwynebu.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: "Mae gosod cyllideb gytbwys yn profi'n heriol flwyddyn ar ôl blwyddyn, a hynny ar ôl setliad gwael arall gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae cyflawni'r gyllideb mewn ffordd sy'n cynnal ein gwasanaethau yn fater o gydbwyso, ac nid ydym am gyfaddawdu ar y gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig. Gyda chostau yn codi oherwydd yr argyfwng costau byw ac effaith chwyddiant, rydym ar hyn o bryd yn wynebu bwlch yn y gyllideb, ac mae cynnydd yn y Dreth Gyngor yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei ystyried. Felly, hoffwn glywed gennych chi. Yn gyntaf, rhowch gynnig ar gydbwyso cyllideb y Cyngor gyda’n hefelychydd cyllideb. Yna, cyflwynwych eich sylwadau trwy’r holiadur ar-lein gan y byddwn yn ystyried y canlyniadau wrth i ni baratoi cylldeb 2026-2027."

Rhowch gynnig ar ein teclyn efelychydd cyllideb i geisio cydbwyso cyllideb y Cyngor: Efelychydd Cyllideb, ac yna cyflwynwch eich barn trwy’r arolwg ar-lein: Ymgysylltu am Gyllideb 2026/27

Bydd copïau papur o’r arolwg hefyd ar gael yn eich Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol neu drwy wefan y Cyngor: Cyllideb 2026-27 Cyngor Sir Ceredigion

Gwyliwch y fideo hwn, sy'n esbonio'n fanwl, sut mae'r Cyngor yn gwario ei arian:

Cymerwch olwg hefyd ar ein cyfres o Gwestiynau Cyffredin sydd ar gael ar ein gwefan: Cyllideb 2026-27 Cyngor Sir Ceredigion

02/12/2025