Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Dirwy i adeiladwr am gamdrin gwastraff peryglus

Mae adeiladwr a ddiystyrodd y mesurau diogelu sefydledig mewn perthynas â dyddodiad a thrin asbestos wedi cael dirwy gan Ynadon yng Nghanolfan Gyfiawnder Aberystwyth.

Roedd Mr Ashley Ciminera, 37 oed, o 30 Bryn Salem, Felinfach, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 8AE wedi bod yn disodli to Harvst yn Warws Teifi, Stryd Morgan, Aberteifi SA43 1DF ym mis Mehefin 2023 pan ollyngodd haenau toi tameidiog a rhychog, wedi’u torri, a wnaed o asbestos i faes parcio a oedd â mynediad cyhoeddus agored, ac yn agos i'r palmant. Yn ystod y broses o dynnu'r haenau, roedd rhannau tameidiog wedi cwympo a difrodi ceir a oedd wedi'u parcio islaw yn y maes parcio.

Pan fydd haenau asbestos yn cael eu tynnu, rhaid i'r unigolyn sy'n trin y deunydd wneud pob ymdrech i atal rhyddhau ffibrau asbestos i'r awyr. Mae hyn fel arfer yn golygu sicrhau eu bod yn cael eu tynnu heb dorri cyn cael eu lapio mewn dwy haen o blastig trwm.

Pan fydd deunyddiau sy'n cynnwys asbestos yn cael eu difrodi, gallant ryddhau ffibrau bach i'r awyr. Mae siâp a maint ffibrau asbestos yn eu galluogi i dreiddio yn ddwfn i'r ysgyfaint, lle gallant aros a threiddio i feinwe'r ysgyfaint. Roedd gadael asbestos wedi torri mewn man cyhoeddus agored felly yn broblem iechyd cyhoeddus difrifol.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am Ddiogelu'r Cyhoedd: "Rwyf wedi cael fy nychryn gan y difaterwch diegwyddor a ddangoswyd i'r cyhoedd gan y troseddwr hwn. Mae'r achos hwn yn dangos y bydd unrhyw un a ganfyddir yn euog o gam-drin gwastraff peryglus yn wynebu cosbau llym. Mae'r erlyniad hwn yn rhybudd clir i bob unigolyn a sefydliad na fydd camreoli deunyddiau peryglus yn ddiofal neu’n fwriadol yn cael ei oddef. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i orfodi rheoliadau amgylcheddol i ddiogelu iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd."

Mewn gwrandawiad ar 29 Ebrill 2025, plediodd Mr Ciminera yn euog i un drosedd o dan adran 33(1a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn ymwneud a gwaredu gwastraff ar eiddo y Cyngor heb awdurdodiad, a throsedd arall o dan adran 33(1c) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 sy'n ymwneud â thrin gwastraff mewn modd sy'n debygol o achosi llygredd i'r amgylchedd neu niwed i iechyd pobl oherwydd bod y deunydd yn wastraff peryglus wedi’i adael mor agos at hawl tramwy cyhoeddus.

Mewn gwrandawiad dedfrydu ar 14 Mai 2025, cafodd Mr Ciminera ddirwy o £200 am bob un o'r ddwy drosedd. Yn ogystal, cyhoeddodd y llys ordal dioddefwr o £160 a rhoddwyd costau erlyn o £150, cyfanswm o £710 i gyd. Ystyriwyd opsiynau lliniaru mewn perthynas â salwch Mr Ciminera a’i anallu i weithio ar y pryd. Diddymwyd ei fusnes adeiladu a thoi yn hydref 2023.