Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Dewch i'r Ardd Storïau ar gyfer Her Ddarllen yr Haf 2025

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Ceredigion yn falch iawn o lansio Her Ddarllen yr Haf 2025, a fydd yn cael ei chynnal o ddechrau Gorffennaf hyd at 27 Medi 2025. Y thema eleni yw ‘Gardd Storïau – Anturiaethau mewn Natur a’r Awyr Agored’.

Mewn partneriaeth â’r Asiantaeth Ddarllen, Cyngor Llyfrau Cymru a llyfrgelloedd lleol ledled y DU, mae’r her yn annog plant 4 i 11 oed i barhau i ddarllen dros wyliau’r haf wrth ddarganfod hud darllen, natur a dychymyg.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae Her Ddarllen yr Haf yn ffordd wych o ysbrydoli plant i fwynhau darllen dros yr haf, gan feithrin chwilfrydedd a chysylltiad â byd natur. Mae’n gyfle i blant archwilio straeon, datblygu eu dychymyg, ac adeiladu cariad at lyfrau a fydd yn para am oes. Rydym yn falch iawn o gefnogi’r fenter hon yng Ngheredigion.”

Sut mae’n gweithio?

Gall plant gofrestru am ddim mewn unrhyw Lyfrgell yng Ngheredigion a byddant yn derbyn ffolder casglwr ac yn anelu at ymweld â’r llyfrgell o leiaf 4 gwaith drwy gydol yr haf a darllen 6 llyfr. Byddant yn casglu sticeri, gwobrau, ac yn y pen draw yn ennill tystysgrif a medal am gwblhau’r her.

Dywedodd Gareth Griffiths, Rheolwr y Gwasanaeth Llyfrgelloedd yng Ngheredigion: “Mae Her Ddarllen yr Haf yn ffordd wych i gadw plant i ddarllen, dysgu a chael eu hysbrydoli yn ystod gwyliau’r ysgol. Rydym wrth ein bodd yn croesawu darllenwyr ifanc i archwilio’r Ardd Storïau gyda ni eleni.”

Sut i gymryd rhan?

I gymryd rhan, ewch i’ch llyfrgell leol, mae cymryd rhan yn rhad ac am ddim, a gall plant ddewis unrhyw lyfrau maen nhw’n eu hoffi – gan gynnwys eLyfrau a llyfrau sain. Ewch ati i feithrin eich dychymyg yr haf hwn wrth gamu i’r Ardd Storïau.

 

Ewch i gyfryngau cymdeithasol y Gwasanaeth i ddysgu mwy: Llyfrgell Ceredigion Library | Facebook.

Hefyd, gallwch ddarganfod mwy am y gwasanaeth ar ein gwefan: Llyfrgell Ceredigion | Cyngor Sir Ceredigion.