
Dathlu llwyddiant pobl ifanc Ceredigion yn sylwebu gemau chwaraeon trwy gynllun Cered
Cynhaliwyd noson arbennig yn Theatr Felinfach ar 4 Mehefin yng nghwmni yr Aelod Seneddol, Ben Lake, i wobrwyo pobl ifanc y Sir fu’n rhan o Gynllun Gohebwyr Ifanc Ceredigion eleni. Cafodd y bobl ifanc fu’n cymryd rhan eu gwobrwyo a’u cymeradwyo, yng nghwmni rheini/gwarchodwyr a’u teuluoedd yn ystod y noson.
Datblygwyd Cynllun Gohebwyr Chwaraeon Ifanc gan Cered: Menter Iaith Ceredigion, mewn partneriaeth â gorsaf Radio Cymru Sport, i gynnig cyfleoedd arbennig i bobl ifanc sy’n byw ar draws Sir Ceredigion i sylwebu ar gemau pêl-droed trwy gyfrwng y Gymraeg. Eleni bu 12 person ifanc yn sylwebu ar gemau byw trwy gydol y tymor pêl-droed ar Cymru Sport gan gynnwys gemau pêl droed dynion a phêl droed merched y Sir.
Agorwyd y noson gan Rhodri Francis, Swyddog Datblygu Cered, a soniodd am ei frwdfrydedd dros gynnig cyfleoedd cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc, sydd â diddordeb mewn chwaraeon. Cafwyd gair o ddiolch hefyd gan Sam Thomas o Cymru Sport a phwyselidiodd yntau bwysigrwydd y cynllun er mwyn creu y genhedlaeth nesaf o sylwebwyr.
Cyflwynwyd tystysgrifau i’r bobl ifanc gan Ben Lake, Aelod Seneddol, a Elen James, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Diwylliant. Estynnodd Ben Lake longyfarchiadau i’r bobl ifanc gan nodi pa mor hyfryd oedd hi i’w gweld nhw yn ymddiddori yn y broses o sylwebu, yn enwedig trwy’r Gymraeg.
Bu teuluoedd y pobl ifanc yn canmol y cynllun hefyd gan nodi pwysigrwydd cynllun o’r fath er mwyn cynyddu hunan hyder. Bydd Cered yn ehangu’r cynllun ymhellach y tymor nesaf gan gynnig cyfleoedd i ohebwyr y dyfodol sylwebu ar gemau mewn ardaloedd ar draws Ceredigion.
I weld fideo o brofiad a barn y pobl ifanc: https://youtube.com/shorts/KlXdYLpPGj0?feature=share
Am fwy o fanylion am y cynllun, cysylltwch â Cered ar cered@ceredigion.gov.uk