Datgelu llwybrau ar gyfer Pencampwriaethau Ffordd Cenedlaethol Lloyds 2025
Gall British Cycling gadarnhau manylion y llwybr ar gyfer Pencampwriaethau Ffordd Cenedlaethol Lloyds yng Ngheredigion, Cymru rhwng 26-29 Mehefin 2025.
Mae cyfanswm o 10 crys pencampwr cenedlaethol chwenychedig ar gael ar draws tri diwrnod o rasio, gyda'r prawf amser ddydd Iau 26 Mehefin 2025, ras y gylchffordd ddydd Gwener 27 Mehefin 2025, a ras y ffordd yn dod â phethau i ben ddydd Sul 29 Mehefin 2025.
Gellir rhoi’ch enw i lawr ar gyfer y tri digwyddiad bellach a bydd y ffenestr ar gyfer gwneud hynny’n cau am hanner nos ddydd Sul 1 Mehefin. Gallwch roi’ch enw i lawr ar gyfer y prawf amser yma, ras y gylchffordd yma, a ras y ffordd yma.
Pencampwriaethau Prawf Amser Cenedlaethol Lloyds, Aberaeron – Dydd Iau 26 Mehefin 2025
Mae llwybr heriol y prawf amser yn dechrau yn Ffos-y-ffin ac mae'n cynnwys dringo dringfa Rhiw Goch allan o'r dref yn fyr ac yn sydyn cyn i'r llwybr ymestyn ar hyd y ffyrdd cyflym i Giliau Aeron. Bydd y menywod elît, menywod dan 23 a dynion dan 23 yn cwblhau un lap a thri chwarter i roi pellter ras o 27km, a bydd y cystadleuwyr agored elît dynion yn cael eu profi dros ddau lap a thri chwarter am bellter ras o 41km.
Pencampwriaethau Rasio Cylchffordd Cenedlaethol Lloyds, Aberystwyth – Dydd Gwener 27 Mehefin 2025
Ar nos Wener 27 Mehefin, pencampwriaethau’r gylchffordd fydd amlycaf yn nhref hardd Aberystwyth.
Mae'r cwrs newydd yn dechrau ac yn gorffen ar lan eiconig y môr cyn mynd i strydoedd canol y dref i gyfeiriad gwrthglocwedd i gwblhau lap cyffrous 1.6km. Bydd 50 munud a phump lap o rasio yn penderfynu pencampwriaeth y menywod elît a’r bencampwriaeth agored elît, a bydd hefyd yn rhoi nifer o gyfleoedd i wylwyr annog y beicwyr yn eu blaenau wrth iddynt basio heibio.
Gan basio'r Bandstand ar bob lap, bydd y ras yn troi i'r chwith i Heol y Wig ac yn teithio ar hyd Stryd Portland, cyn mynd i Forfa Mawr cyn ailymuno â Rhodfa Fuddug, lle bydd y rasys yn dod i ddiwedd cyffrous.
Pencampwriaethau Rasio Ffordd Cenedlaethol Lloyds, Aberystwyth – Dydd Sul 29 Mehefin 2025
Ar ôl dechrau ar lan y môr lle bydd cyflwyniad, bydd rasys y ffordd yn mynd allan o'r dref tuag at Y Gors cyn belled â Thrawsgoed ar ddolen wrthglocwedd heriol a hardd 23.4km, gan anelu'n ôl tuag at Aberystwyth gan basio Abermad. Gyda graddiant mwyaf o 9.1% ar ddechrau pob lap, bydd y peloton yn teneuo wrth i ni symud ymlaen i'r gylchffordd orffen ar ôl tri lap ar gyfer ras y menywod a phum lap yn y ras y dynion.
Mae'r cylchffyrdd gorffen o 12.4km - pedwar i'r menywod a phump i ras y dynion - yn defnyddio'r man cychwyn a gorffen ar lan y môr fel ei chanolbwynt, gan redeg ar hyd bron y promenâd cyfan, heibio'r hen goleg a thiroedd y castell, cyn rhan dechnegol drwy'r hen harbwr cyn dolennu dros bont Trefechan.
Cymaint yw natur heriol y cwrs, mae graddiant mwyaf o 8.7% trwy Southgate i'w daclo bob lap. Bydd y ddisgynfa dechnegol gul o 13.8% o Foriah yn ôl i'r brif A44 yn brawf o sgiliau trin beic wrth i'r beicwyr gyrraedd ychydig gilometrau olaf pob pencampwriaeth. Oddi yno, mae'r ras yn mynd yn ôl i'r dref cyn gorffen ar bromenâd glan y môr ar ôl 128km i ras y menywod a 187km i'r ras agored.
Ychwanegodd Stevie Williams, enillydd Taith Prydain Lloyds i Ddynion y llynedd, sy'n hanu o Gymru: “Mae rasio ar ffyrdd cartref yn gyfle prin sydd bob amser yn ei gwneud hi'n arbennig iawn, felly alla i ddim aros i fynd allan ar y ffyrdd rwy'n eu ’nabod mor dda wrth i Bencampwriaethau Ffordd Cenedlaethol Lloyds ddod i Geredigion. Fel Cymro balch, mae'n wych gweld yr ornest eiconig hon yn nhymor domestig y ffyrdd yn dod i ffyrdd y wlad a dangos croeso Cymreig go iawn i'r peloton.
“Roedd y gefnogaeth a gefais mewn digwyddiadau yn y Deyrnas Unedig y llynedd yn rhagorol, felly ni allaf ond dychmygu sut beth fydd clywed y gefnogaeth gartref yng Nghymru ddiwedd mis Mehefin. Edrychaf ymlaen at weld pawb yng Ngheredigion bryd hynny am rasio difyr iawn ar y ffyrdd.”
Dywedodd Jonathan Day, Rheolwr Gyfarwyddwr British Cycling Events: “Rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda'n rhanddeiliaid i osod y cyrsiau cyffrous a heriol hyn ar gyfer ein beicwyr ym Mhencampwriaethau Ffordd Cenedlaethol Lloyds 2025.
“Mae'r lleoliadau ar gyfer pob un o'r pencampwriaethau yn drawiadol ac yn brawf gwych i'r beicwyr wrth iddynt anelu at ennill crys mawreddog y pencampwr cenedlaethol. Yn ogystal, mae sawl cyfle i wylwyr weld y beicwyr yn pasio'r tirnodau eiconig hyn. Rydym yn edrych ymlaen at gynnal y pencampwriaethau yng Ngheredigion ym mis Mehefin.”