Skip to main content

Ceredigion County Council website

Dadorchuddio barddoniaeth ar bromenâd Aberystwyth

Mae’r gwaith o adnewyddu Promenâd Aberystwyth wedi cyrraedd carreg filltir farddonol yr wythnos hon wrth i ‘Gwpledi i’r Prom’ gael eu gosod ar lechi ar y Prom.

Comisiynwyd y gerdd yn arbennig ac fe gafodd ei chyfansoddi gan Feirdd  y Dref, Dr Eurig Salisbury a Dr Hywel Griffiths fel anrheg i'r dref. Mae’n dathlu hanes ac ysbryd cymunedol y dref a’i chyswllt agos â’r môr.

Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn credu’n gryf mewn darparu cyfleoedd i bobl greadigol yr ardal gyfrannu at dwristiaeth ddiwylliannol gynaliadwy ac adfywiol yma yng ngorllewin Cymru. Roedd gwaith adfywio Cyngor Sir Ceredigion ar bromenâd glan môr y dref yn cynnig cyfle gwych i gydweithio a chynnwys gwaith llenyddol newydd yn adeiledd y promenâd, gan gefnogi’r cais i fod yn Ddinas Diwylliant UNESCO. Y nod yw defnyddio prosiectau o’r fath i ddangos sut mae plethu llenyddiaeth i mewn i brosiectau cyfalaf ledled Ceredigion a thu hwnt.

Mae’r gerdd hon a gomisiynwyd gan Gyngor Tref Aberystwyth yn rhan o fenter ehangach i hybu’r promenâd fel man bendigedig sy’n rhoi lle i ddiwylliant a threftadaeth. Ynghyd â’r gerdd y mae cyfres o lechi gydag ymadroddion y ‘Cardi’ wedi’u cerfio arnynt er mwyn atgyfnerthu hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol yr ardal. Defnyddiwd yr ymadroddion hyn yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yn 2022.

Mae Maer Aberystwyth, Maldwyn Pryse, wedi croesawu’r gwaith newydd, gan ddweud: “Mae’r gerdd hon yn deyrnged i hanes cyfoethog Aberystwyth a’i phobl ac i gysylltiad parhaol y dref â’r môr. Mae gweld y geiriau wedi’u hysgrifennu yn y promenâd ei hun yn atgof pwerus o’r modd y mae diwylliant a chymuned yn llunio ein hamgylchedd.”

Mae gosod y gerdd yn gam sylweddol ymlaen yn y gwaith o adfywio’r promenâd er mwyn creu glan môr croesawgar a gwydn.

Soniodd y beirdd Dr Eurig Salisbury a Dr Hywel Griffiths am yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gerdd: “Mae Aberystwyth yn fan lle mae’r tir, y môr a’r bobol yn cyd-daro i greu deialog parhaus ond cyfnewidiol.  Roeddem eisiau dal hanfodion y cysylltiad yma ‒ gwytnwch y promenâd, prydferthwch ei leoliad a’r teimlad o berthyn y mae’n ei gynnig i’r rheiny sy’n ymlwybro ar ei hyd, boed am y tro cyntaf neu ar hyd eu hoes.”

Dros yr wythnosau nesaf bydd gwelliannau pellach yn mynd rhagddynt a disgwylir i'r prosiect adfywio cyfan ddod i ben erbyn gaeaf 2025.

Gwnaeth y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, dynnu sylw at bwysigrwydd y farddoniaeth i’r prosiect yn ei gyfanrwydd: “Mae’r promenâd wastad wedi bod yn ganolbwynt i drigolion y dref a’r rheiny sy’n ymweld. Mae’r ychwanegiad creadigol hwn nid yn unig yn gwella’i apêl weledol ond hefyd yn sicrhau bod ein treftadaeth a’n hiaith yn weladwy ac yn cael eu dathlu mewn mannau cyhoeddus pob-dydd.”

Mae adfywio Promenâd Aberystwyth yn rhan o raglen fuddsoddi ehangach sy'n ceisio gwella ardal ddeheuol y prom yn Aberystwyth gan sicrhau ei bod yn parhau i fod yn lle deniadol a gwydn i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae’r gwaith cyffredinol a ariennir gan Lywodraeth y DU yn cefnogi’r gwaith adfywio lleol ac yn cryfhau’r cyfleoedd economaidd yng Ngheredigion.

Gyda’r garreg filltir ddiweddaraf hon mae Aberystwyth yn parhau i gyfuno hanes, celfyddyd ac adfywio gan sicrhau y bydd y promenâd yn lle i fyfyrio, i gyd-dynnu ac i ysbrydoli am genedlaethau i ddod. 

Bydd diweddariad llawn ar y prosiect unwaith y bydd y manylion wedi'u cwblhau, gan gynnwys bwriad i gynnal dathliad arbennig ar y cyd â Chyngor y Dref, yr Aelod Lleol a Beirdd Aberystwyth i nodi dadorchuddio Cerdd y Promenâd. Byddwn hefyd yn rhoi sylw i’r buddion cymunedol a ddarparwyd gan TTS a fu’n ymwneud â Chyngor y Dref i loywi’r promenâd â phlanhigion newydd a gwyrddni.

Mae cam diweddaraf y gwaith adfywio bron â chael ei gwblhau a gwnaed camau breision. Gan edrych ymlaen, mae disgwyl i’r bennod nesaf – palmentu a gosod wyneb newydd o amgylch yr Hen Goleg eiconig – ddigwydd rhwng misoedd Hydref a Chwefror.

I weld y diweddaraf am y prosiect yn gyffredinol ewch i: www.ceredigion.gov.uk/promaber