
Cystadleuaeth ffotograffiaeth ieuenctid i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2025
Cynhaliwyd Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Nghymru rhwng 23 a 30 Mehefin 2025 eleni. Roedd yn gyfle i arddangos a dathlu effaith ac amrywiaeth Gwaith Ieuenctid ledled Cymru.
Dathlodd Gwasanaethau Ieuenctid Ceredigion gydag amrywiaeth o weithgareddau yn ystod yr wythnos, gan gynnwys lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy'n byw yng Ngheredigion.
Cyflwynwyd cyfanswm o 16 o luniau fel rhan o'r gystadleuaeth, ac roedd gan banel ieuenctid y dasg anodd o ddewis y cais buddugol. Roedd yn dasg arbennig o anodd dewis o blith amrywiaeth o ffotograffau creadigol o ansawdd mor uchel.
Enillydd Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Pobl Ifanc eleni yw Gwydion Evans, Ysgol Bro Teifi a fydd yn derbyn taleb rhodd a thystysgrif gwerth £50.
Dywedodd Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Da iawn i bawb a gymerodd ran! Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i weld cymunedau Ceredigion trwy lygaid pobl ifanc y sir.”