Cystadleuaeth ffotograffiaeth ieuenctid i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2025
Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn digwydd rhwng 23 a 30 Mehefin 2025. Mae’n gyfle i arddangos a dathlu effaith ac amrywiaeth Gwaith Ieuenctid ledled Cymru.
Bydd Gwasanaethau Ieuenctid Ceredigion yn dathlu gydag amrywiaeth o weithgareddau yn ystod yr wythnos, ac yn lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth er mwyn annog dawn greadigol ieuenctid y Sir.
Mae’r gystadleuaeth ar agor i bobl rhwng 11 a 25 oed sydd yn byw yng Ngheredigion. Bydd yr enillydd yn derbyn taleb gwerth £50 a thystysgrif.
Gall lluniau gynnwys unrhyw beth y mae’r ffotograffydd yn ei fwynhau am eu hardal, gyda’r thema ‘fy nghymuned leol’. Gall lluniau gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i dirnodau lleol, golygfeydd, pensaernïaeth neu natur. Ni ddylai lluniau gynnwys wynebau / neu rywbeth sy'n gwneud person yn adnabyddadwy.
Dylai pob cais gynnwys enw’r person ifanc, oedran, ysgol / lleoliad addysgol a’u manylion cyswllt.
Bydd yr ymgeisydd buddugol yn cael eu dewis gan banel o bobl ifanc.
Dywedodd Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae hwn yn gyfle gwych i weld cymunedau Ceredigion trwy lygaid pobl ifanc y sir. Byddaf yn edrych ymlaen at weld y ceisiadau a phob lwc i’r ymgeisydd.”
Y dyddiad cau yw 18 Mehefin 2025, a bydd yr enillydd yn cael eu cyhoeddi ar 30 Mehefin 2025.
Gall pobl ifanc gyflwyno eu ceisiadau drwy e-bost i porthcymorthcynnar@ceredigion.gov.uk.
Gall pobl ifanc hefyd gyflwyno eu ceisiadau yn uniongyrchol i'w Gweithwyr Ieuenctid (mae Gweithiwr Ieuenctid dynodedig ym mhob Ysgol Uwchradd).
Manylion llawn ar gael yn y poster - POSTER CYSTADLEUAETH FFOTOGRAFFIAETH