Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cynllun Llunio Lleoedd yng Ngheredigion

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn cymunedau a lleoedd. Maeʼn canolbwyntio ar alluogi lleoedd i fuddsoddi ac adfer eu mannau cymunedol a chreuʼr sylfeini priodol ar gyfer cymunedau lleol llewyrchus.

 

#
#

Ar ôl datblygu Cynlluniau Lle ar gyfer prif drefiʼr sir rai blynyddoedd yn ôl, maeʼr pwyslais bellach ar helpu cymunedau gwledig llai o faint. Mae prosiect Llunio Lle yn ymwneud â helpu tri ar ddeg o bentrefi gwledig i ddeall eu hanghenion, llunio eu gweledigaeth a chlustnodi blaenoriaethau, a gaiff eu cyflwyno mewn Cynllun Lle unigryw.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros Economi, Adfywio a Rheoli Carbon: “Mae’r broses o lunio lle a chreu cynlluniau wedi bod o fudd i’n prif drefi yng Ngheredigion. Maent wedi darparu ffocws ac wedi galluogi mynediad at gyllid i wireddu elfennau’r cynlluniau. Drwy gynnal ymarfer tebyg gyda’n cymunedau mwy o faint ar draws y sir, bydd hyn hefyd yn ychwanegu gwerth, yn rhoi ffocws ac yn arwain datblygiadau’r dyfodol. Rwy’n annog pawb i gymryd rhan ac i’n helpu i adeiladu cymunedau llewyrchus ar draws Ceredigion.”

Bydd nifer o ffyrdd i drigolion lleol a grwpiau gymryd rhan i lunio eich Cynllun Lle, gan gynnwys cerdded o gwmpas y gymuned, sesiynau galw heibio ac arolygon dros y misoedd nesaf. 

Mae’r Cyngor Sir hefyd yn datblygu gwefan ddwyieithog ar-lein am y cynllun. Bydd y wefan hon yn adnodd i gymunedau ar gyfer gweledigaethau a syniadau am wneud newidiadau iʼw Lle, yn ogystal â bod yn ddull rhyngweithiol ar gyfer ymateb ac olrhain cynnydd.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi penodi Chris Jones Regeneration (Studio Response a Gwe Cambrian) iʼw helpu i ddatblygu Cynlluniau Lle ar gyfer pob cymuned wledig.

Y tair ar ddeg cymuned wledig fydd yn ganolbwynt i’r Cynlluniau Lle yw Aber-porth/Parc-llyn, Bow Street (gan gynnwys Llandre), Cenarth, Felin-fach/Ystrad Aeron, Llannarth, Llanilar, Llan-non, Llanrhystud, Penrhyn-coch, Pontarfynach), Pontrhydfendigaid, Tal-y-bont, Y Borth.

Os ydych chi’n byw, neu’n aelod o grŵp lleol yn un o’r pentrefi gwledig hyn, gallwch dderbyn diweddariadau a chofrestru eich diddordeb drwy anfon e-bost at chris@chrisjones.studio.