Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cynllun Llety â Chymorth newydd Ceredigion yn chwilio am bobl i ddarparu llety

Gallwch chi ddarparu lle diogel, cefnogol yn eich cartref i berson ifanc? Mae cynllun Llety â Chymorth Ceredigion yn chwilio am bobl i ddarparu llety ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed.

Fel gwesteiwr llety â chymorth, disgwylir i chi ddarparu ystafell wely yn eich cartref, arwain a chefnogi'r person ifanc i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fyw'n annibynnol. Gallent fod yn blant sydd wedi gadael gofal, methu byw gartref mwyach neu’n geisiwr lloches heb oedolyn.
Fel gwesteiwr, efallai y byddwch yn cefnogi ac arwain person ifanc i fagu hyder mewn meysydd fel mynediad at addysg, coginio a glanhau, rheoli arian, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, garddio a chynnal a chadw, gan helpu a'u sgiliau cymdeithasol a bod yno i wrando. Darperir hyfforddiant a chymorth i westeiwyr cyn ac yn ystod eu cyfnod fel Gwesteiwr Llety â Chymorth.
Dywedodd Sally, Cyn-westeiwr Cynllun Llety â Chymorth: "Roedd gweld y bobl ifanc yn ffynnu yn werthfawr iawn. Byddai'n cymryd tua mis i'r bobl ifanc deimlo'n gyfforddus yn eu cartref newydd, felly mae'n rhaid i chi fod yn amyneddgar. Y pethau bach fel cynnig gwneud coffi i mi neu gofyn a allant helpu gyda gwneud swper oedd yn werthfawr - ni fydden nhw byth wedi eu gwneud hynny yn y cychwyn, a gweld nhw’n symud mlaen i fod yn oedolion annibynnol."
Ychwanegodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Lesiant Gydol Oes sy'n cynnwys Cynllun newydd Ceredigion: “Drwy fod yn westeiwr yng Ngheredigion, rydych chi’n helpu plant i aros yn eu cymuned, gyda’r amgylchedd, yr acen, yr ysgol, yr iaith, y ffrindiau a’r gweithgareddau y maen nhw’n gyfarwydd â nhw. Mae’n eu cadw’n gysylltiedig, yn adeiladu sefydlogrwydd ac yn meithrin hyder, i gyd wrth lywio'r newidiadau mawr maen nhw'n eu profi. Os oes diddordeb gyda chi, cysylltwch â'r tîm."
Os ydych chi'n teimlo y gallech ddarparu llety neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â sut fydd hyn yn gweithio i chi, cysylltwch â Thîm Llety â Chymorth drwy e-bostio maethu@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570 881.