
Cyngor Sir Ceredigion yn lansio Cynllun i Raddedigion
Mae Cynllun i Raddedigion newydd sbon wedi cael ei lansio sy’n cynnig cyfleoedd i raddedigion diweddar ddatblygu eu gyrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd allweddol.
Dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn gyffrous i lansio’r cynllun hwn. Mae’n fenter sydd nid yn unig yn cefnogi ein Hamcan Lles Corfforaethol o ‘Hybu’r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth,’ ond hefyd yn gyfle gwych i raddedigion diweddar gymryd eu cam cyntaf ar yr ysgol yrfa a chael mynediad at gyfleoedd gyrfa o ansawdd mewn gwasanaeth cyhoeddus a thu hwnt.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r cynllun hwn, a wnaed yn bosibl trwy gyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, yn fuddsoddiad gwerthfawr yn ein sir. Mae’n cynnig cyfle i raddedigion ddilyn gyrfaoedd gwerth chweil o fewn y rhanbarth a’r cymunedau lle cawsant eu magu. Rydym yn annog graddedigion yn gryf i wneud cais ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y fenter hon yn y blynyddoedd i ddod.”
Ynglŷn â’r cynllun
Mae’r cynllun ar agor i raddedigion gyda graddau perthnasol, gyda chwe chyfle ar gael yn y meysydd canlynol:
- Cynllunio, Rheoli Adeiladu a Rheoli Datblygu
- Lleihau Carbon, Ynni a Rheoli Asedau
- Peirianneg
- Cyfreithiol
- Diogelu’r Cyhoedd (Iechyd yr Amgylchedd neu Safonau Masnach)
- Gwaith Ieuenctid
Bydd Hyfforddeion Graddedig yn cael cynnig contract 12 mis a byddant yn ennill cyflog wrth ddysgu, yn derbyn cefnogaeth i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth arbenigol, ac yn adeiladu sylfaen gref ar gyfer eu gyrfa yn y dyfodol.
Mwy o wybodaeth
Mae ceisiadau ar gyfer y rolau Hyfforddi Graddedigion ar agor nawr ac ar gael ar ein gwefan gyrfaoedd.
Anogir ymgeiswyr sydd â diddordeb ac sydd am ddysgu mwy am y cynllun a’r profiad cyflogaeth gwych a gynigir gan Dîm Ceredigion, i archebu lle yn y Sesiwn Wybodaeth Ar-lein a gynhelir ar ddydd Llun 09 Mehefin.