Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cyngor Sir Ceredigion yn adolygu terfynau cyflymder o 20mya ar sail adborth

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r terfynau cyflymder 20mya ledled y sir. Daw hyn yn dilyn galwad Llywodraeth Cymru arnom i gasglu adborth y trigolion ac ar ôl iddynt ddarparu canllawiau newydd ar ‘eithriadau 30mya’ yn 2024.

Yn ystod y ‘cyfnod gwrando’ hwn rhwng mis Mai a mis Medi 2024 derbyniodd Cyngor Sir Ceredigion 62 o sylwadau unigol. O blith y rhain roedd 23 yn mynegi cefnogaeth i’r terfynau newydd o 20mya, 20 yn dymuno newid y polisi cenedlaethol, 16 yn gwrthwynebu’r terfynau presennol o 20mya ar ffyrdd sirol, 8 yn cyfeirio’n benodol at leoliadau ar Gefnffordd a reolir gan Lywodraeth Cymru lle nad oes gan y Cyngor awdurdod, a bernid bod 3 y tu allan i gwmpas yr ymarferiad.

Bu i Gyngor Sir Ceredigion adolygu’n glòs 34 o rannau o’r ffyrdd yn unol â chanllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru sy’n rhoi pwyslais cryf ar ddarparu amgylchedd mwy diogel i ddefnyddwyr sy’n agored i niwed ar y ffordd, megis cerddwyr a beicwyr.

Mae pob lleoliad yn yr adolygiad wedi cael eu hailasesu ar sail canllawiau eithriadau 30mya Llywodraeth Cymru sy’n cynnwys y meini prawf allweddol canlynol ar gyfer terfynau o 20mya:

·                Lleoliadau addysgol (o fewn 100m): Ysgolion; grwpiau cyn ysgol; Addysg bellach; Addysg uwch;

·                Cyfleuster cymunedol (o fewn 100m): neuaddau cymuned; caeau chwarae, cyfleusterau chwaraeon a lleoedd chwarae i blant;

·                Cyfleuster meddygol (o fewn 100m): Ysbytai, meddygfeydd, canolfannau gofal dydd;

·                Os oes mwy nag 20 o dai preswyl a/neu fangreoedd manwerthu yn ffryntio’n uniongyrchol ar y ffordd, ar y ddwy ochr, dros bellter o gilomedr (gan ystyried y pellter o’r heol, gwelededd, geometreg y ffordd, mynedfeydd eraill).

Os bydd unrhyw un o’r meini prawf uchod yn cael eu cyrraedd, mae terfyn o 20mya yn briodol.

Canlyniad y gwaith adolygu yw na nodwyd rhagor o newidiadau ac y dylai’r terfynau cyflymder o 20mya a gyflwynwyd ar Ffyrdd Sirol Ceredigion yn 2023 aros fel y maent.

Dywedodd y Cynghorydd Shelley Childs, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol: "Roedd yr adolygiad yn gyfle i asesu pa mor agos y rhoddwyd y canllawiau gan Lywodraeth Cymru ar waith ar ffyrdd sirol yng Ngheredigion. Mae data gwrthdrawiadau a ryddhawyd yn ddiweddar gan yr heddlu a Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod y newid cenedlaethol i'r terfyn cyflymder yn ymddangos fel pe bai’n lleihau anafusion ar ffyrdd ledled Cymru, ac mae gohebiaeth a gafwyd yn ystod y broses adolygu yn awgrymu bod y terfynau 20mya newydd yn cael eu croesawu gan lawer yn y sir. Er, nid oedd adolygiad y Cyngor yn cynnwys dim trefniadau o ran terfynau cyflymder ar Gefnffyrdd yr A487 a'r A44 yng Ngheredigion gan mai cyfrifoldeb uniongyrchol Llywodraeth Cymru yw’r rheini."

Cewch ragor o wybodaeth yma: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/teithio-ffyrdd-a-pharcio/ymgynghoriadau/gorchmynion/terfynau-cyflymder-20mya/