Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn sgwrsio gydag Elin Jones AS
Ar 15 Rhagfyr 2025, ymwelodd aelodau o Gyngor Ieuenctid Ceredigion â Senedd Cymru yng Nghaerdydd, a chyfarfod ag Elin Jones AS i drafod materion allweddol sy’n bwysig i bobl ifanc.
Fel rhan o raglen waith flynyddol Cyngor Ieuenctid Ceredigion, cafodd pobl ifanc daith addysgol o amgylch y Senedd, a chyfle i eistedd i lawr gyda’r Llywydd i gyflwyno cyfres o gwestiynau yn canolbwyntio ar amrywiaeth o faterion lleol gan gynnwys trafnidiaeth, addysg, a gwleidyddiaeth.
Nod Cyngor Ieuenctid Ceredigion yw meithrin a chynnal cysylltiadau rhwng pobl ifanc a Senedd Cymru a Senedd y DU drwy Aelodau Seneddol Ceredigion, er mwyn sicrhau bod llais pobl ifanc Ceredigion yn cael ei gynrychioli ar faterion sy’n effeithio arnynt.
Dywedodd Gwilym Morus, Aelod newydd Senedd Ieuenctid y DU dros Geredigion a disgybl Ysgol Gyfun Penweddig: “Roedd yn gyfle gwych i gyflwyno a thrafod meysydd blaenoriaeth allweddol gydag Elin Jones yn y Senedd yn ddiweddar. Trafodwyd sawl pwnc sy’n agos at ein calonnau, fel trafnidiaeth cyhoeddus, a diddorol iawn oedd cael y cyfle i ddysgu mwy am waith Senedd Cymru a’r hyn sy’n mynd ymlaen yn y Senedd. Mae’n hollbwysig bod pobl ifanc yn cael llwyfan i rannu eu barn, ac roedd hwn yn gyfle perffaith i wneud hynny. Hoffwn ddiolch i'r Llywydd ar rhan Cyngor Ieuenctid Ceredigion am drafodaeth ddiddorol a chadarnhaol ac am roi o’i hamser i siarad â ni. Fe wnaethon ni i gyd fwynhau’r profiad.”
Dywedodd Elin Jones AS: “Roedd yn bleser cael croesawu Cyngor Ieunectid Ceredigion i’r Senedd am daith a sgwrs unwaith eto eleni. Mae wastad yn braf cael cwrdd â phobl ifanc sydd a diddordeb mewn gwleidyddiaeth a’r byd o’u cwmpas. Roedd y drafodaeth yn eang ac aeddfed – o faterion trafnidiaeth i addysg, i’r iaith Gymraeg a chyllidebau.”
29/12/2025