
Cyhoeddi rhestr seiclwyr fydd yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds 2025
Mae 20 o gyn-bencampwyr cenedlaethol y ffordd wedi cael eu cynnwys yn y rhestr dros-dro o reidwyr fydd yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds 2025 sy’n dechrau ddydd Iau, 26 Mehefin yn Aberaeron.
Un i gadw llygad arni fydd Cat Ferguson (Tîm Movistar) yn ras ffordd elît y merched a’r ras yn erbyn y cloc dan 23. Newydd greu argraff yn Tour of Britain Lloyds 2025 i ferched y mae Cat Ferguson lle ddaeth ar frig y rhestr bwyntiau, ennill crys y beiciwr ifanc gorau a gorffen fel y beiciwr gorau o Brydain. Llwyddodd hefyd i ennill ei chymal cyntaf yn ei gyrfa, yn Kelso.
Mae disgwyl i’r bencampwraig ras y ffordd ar dri achlysur ac enillydd y ras yn erbyn y cloc dan 23, Pfeiffer Georgi (Tîm Picnic PostNL) amddiffyn ei theitl. Felly hefyd Anna Henderson (Lidl-Trek) a enillodd y ras yn erbyn y cloc y llynedd cyn iddi fynd yn ei blaen i ennill medal arian yn y ras yn erbyn y cloc yn y Gemau Olympaidd.
Cadwch lygad craff ar Max Walker (EF Education–EasyPost) sy’n anelu i wella ar y fedal arian a gafodd yn y ras ffordd genedlaethol elît yn erbyn y cloc y llynedd, tra bod Seb Grindley (Lidl - Trek Future Racing) yn ceisio adeiladu ar ei fedal arian iau dan 23 y llynedd yn y ras yn erbyn y cloc yn y pencampwriaethau byd.
Mae llu o feicwyr o Gymru wedi cofrestru i gystadlu gan gynnwys Owain Doull (EF Education – EasyPost) a’r chwiorydd Zoe Backstedt (CANYON-SRAM zondacrypto) ac Elynor Backstedt (UAE Team ADQ), ac Elinor Barker (Uno-X Mobility) a Megan Barker (Tekkerz CC).
Mae’r pencampwr cenedlaethol ac Olympaidd ar ddau achlysur ac enillydd Tour de France 2018, Geraint Thomas (INEOS Grenadiers) wedi cofrestru ar gyfer y ras ffordd a'r ras yn erbyn y cloc yn ei wlad enedigol. Y rhain fydd ei Bencampwriaethau Ffyrdd Cenedlaethol olaf ar ôl iddo gyhoeddi y bydd yn ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn.
Bydd arwr lleol Aberaeron, Josh Tarling (INEOS Grenadiers) yn ôl yn ei filltir sgwâr i amddiffyn ei deitl yn y ras yn erbyn y cloc a cheisio’i gwneud hi’n goron driphlyg ar ôl iddo ennill y ddwy flynedd ddiwethaf, tra bydd Tomos Pattinson (Tîm Visma | Lease a Bike Development) yn ceisio amddiffyn ei deitl dynion dan 23 yn y ras yn erbyn y cloc.
Mae Pencampwriaethau Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds 2025 yn cynnig llwyfan gwych i feicwyr Prydain rasio ar eu ffyrdd cartref a chael anogaeth ffrindiau, teulu a’r cefnogwyr lleol.
Bydd 10 crys pencampwr cenedlaethol yn y fantol dros dri diwrnod o rasio gyda'r ras yn erbyn y cloc ddydd Iau 26 Mehefin 2025, y ras gylchdaith ddydd Gwener 27 Mehefin 2025, a'r ras ffordd yn glo ar y cyfan ddydd Sul 29 Mehefin 2025.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio: "Rydym yn falch o weld rhestr mor gyffrous ar gyfer Pencampwriaeth Rasio Ffordd Genedlaethol Lloyds ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r beicwyr a'r cefnogwyr i Geredigion."
Gellir gweld rhestr lawn reidwyr Pencampwriaethau Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds 2025 yma.
I fwrw golwg manylach ar lwybrau'r tri chymal ym Mhencampwriaethau Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds eleni, ac i gael rhagor o wybodaeth am y rasys, y lleoliadau sy’n eu cynnal a’r timau sy'n cymryd rhan, cliciwch yma.
Mae Pencampwriaethau Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds 2025 yn dechrau gyda ras heriol yn erbyn y cloc ddydd Iau 26 Mehefin. Bydd yn dechrau yn Ffos-y-Ffin a bydd y merched elît, merched dan 23 a’r categori agored dan 23 yn cystadlu dros 27km o ffordd, tra bydd yr elît agored yn brwydro dros 41km.
Aberystwyth fydd cartref y ras gylchdaith ddydd Gwener 27 Mehefin a'r ras ffordd ddydd Sul 29 Mehefin, gan roi cyfleu i’r cefnogwyr ddod i weld eu hoff feicwyr cenedlaethol yn ymrafael am y teitl.