Cyfle i bobl ifanc ymgeisio am fwrsari o £1,500
Yn dilyn llwyddiant y blynyddoedd blaenorol, mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn cyfle gan gwmni West Wales Holiday Cottages er mwyn cefnogi pobl ifanc gyda bwrsari ariannol eleni eto.
Bwriad y bwrsari yw cynnig cyfle i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed dderbyn £1,500 i helpu gyda’u dyheadau ar gyfer y dyfodol. Dewisir y cais neu geisiadau llwyddiannus gan Fforwm Ieuenctid Ceredigion, sy'n banel o bobl ifanc o Geredigion.
Dywedodd Gwion Bowen, Uwch Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc: “Rydym yn ddiolchgar iawn ac yn werthfawrogol i West Wales Holiday Cottages am roi'r cyfle hwn i ni ar gyfer pobl ifanc yng Ngheredigion eleni eto. Fel ein hunain, mae West Wales Holiday Cottages yn cydnabod y gall nifer o bobl ifanc sy'n byw yng Ngheredigion brofi anawsterau wrth gael mynediad at hyfforddiant, cefnogaeth a gweithgareddau cymdeithasol oherwydd materion economaidd-gymdeithasol. Roedd y fwrsariaeth yn hynod o lwyddiannus y llynedd, gyda thri pherson ifanc yn cael cymorth ariannol i'w helpu gyda'u prosiectau. Rydym yn gobeithio bydd y fwrsariaeth yn llwyddiant eto eleni, ac y bydd o fudd i bobl ifanc yng Ngheredigion.”
Oes angen cymorth ariannol arnoch i gyrraedd eich nodau? A fyddech chi'n elwa o gymorth ariannol i’ch helpu gyda hyfforddiant neu offer sydd eu hangen ar gyfer eich galwedigaeth ddewisol? Ydych chi'n chwilio am gefnogaeth i gychwyn eich menter eich hun? Ydych chi'n aelod o grŵp cymunedol ac yn chwilio am gymorth ariannol i brynu offer neu adnoddau?
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae’n grêt i glywed am gyfleoedd fel hyn yng Ngheredigion sy’n galluogi pobl ifanc i ddilyn eu diddordebau a'u dyheadau ar gyfer y dyfodol. Cafodd y Gwasanaeth Ieuenctid gryn ddiddordeb y llynedd, ac rwy’n gobeithio y bydd yn derbyn fwy o ddiddordeb y flwyddyn hon. Hoffem erfyn ar bobl ifanc y sir i fanteisio ar y cyfle hwn a dymuno’r gorau iddynt.”
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos 17 Gorffennaf, 2025. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Gwion Bowen ar 07790 812939 neu e-bostiwch Gwion.Bowen@ceredigion.gov.uk am ffurflen ymgeisio.