Ceredigion yn ymrwymo i weledigaeth Ymarfer Perthynol ar gyfer pob ysgol
Mae menter newydd wedi'i lansio yng Ngheredigion i gefnogi pob ysgol a lleoliad addysg i ddatblygu a defnyddio ymarfer perthynol yn rhan o'u gwaith o ddydd i ddydd.
Mae Ymarfer Perthynol yn seiliedig ar ymddygiad tawel a chyson gan oedolion. Mae'n galluogi oedolion mewn lleoliadau ysgol neu gartref, neu unrhyw un sy'n dylanwadu ar fywydau plant, i ddatblygu perthnasoedd iach a chreu canlyniadau cadarnhaol i bobl ifanc.
Ym mis Medi 2025, trefnodd Gwasanaeth Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Diwylliant Ceredigion gynhadledd ‘Ymarfer Perthynol’ i holl staff ysgolion ledled y sir a gweithwyr proffesiynol o adrannau priodol eraill.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniad gan ‘When The Adults Change’, sefydliad y mae ei waith wedi ysbrydoli newid cenedlaethol mewn ymarfer ymddygiad.
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ysgolion a Dysgu Gydol Oes: “Hoffwn ddiolch i’r tîm am drefnu cynhadledd mor ysbrydoledig yn egluro manteision niferus Ymarfer Perthynol. Mae’n fwy na strategaeth ymddygiad – mae’n newid diwylliannol. Drwy newid sut mae oedolion yn ymateb, rydym yn creu amgylcheddau lle mae plant yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu parchu, ac yn barod i ddysgu.”
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i greu dull cyson, ledled y sir sy’n hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a lles ymhlith plant a phobl ifanc, gan roi’r sgiliau i staff i reoli heriau’n effeithiol ac yn dosturiol.
Bydd y Gwasanaeth Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Diwylliant yn parhau i gefnogi ysgolion drwy hyfforddiant a rhannu arferion gorau i feithrin cysondeb a dysgu gan gymheiriaid.
Mae’r fenter hon yn tanlinellu ymrwymiad Cyngor Sir Ceredigion i feithrin amgylcheddau lle gall pobl ifanc ffynnu’n emosiynol, yn gymdeithasol, ac yn academaidd.
11/11/2025