
Ceredigion yn paratoi i gynnal Pencampwriaethau Rasio Ffordd Genedlaethol 2025
Mae Ceredigion yn edrych ymlaen at groesawu seiclwyr a chefnogwyr i Geredigion ar ddiwedd y mis ar gyfer Pencampwriaethau Rasio Ffordd Genedlaethol Lloyds British Cycling a Phencampwriaeth Rasio Ffordd Beicio Cymru.
Cynhelir y digwyddiad rhwng 26-29 Mehefin a bydd yn dechrau yn nhref glan y môr hardd Aberaeron ac yn gorffen yn nhref ddiwylliannol, fywiog Aberystwyth.
Mae croeso i gefnogwyr wylio ar unrhyw un o'r llwybrau, fodd bynnag, gofynnir iddynt ddod o hyd i le diogel a fydd ddim yn rhwystro beicwyr a staff yn ystod y rasys.
I sicrhau llwyddiant y digwyddiad, bydd nifer o’r prif ffyrdd o amgylch Aberaeron ac Aberystwyth ar gau am gyfnodau penodol. Gallwch ddod o hyd i restr lawn ar Pencampwriaethau Seiclo - Cyngor Sir Ceredigion.
Mae llwybr heriol y prawf amser ddydd Iau 26 Mehefin yn dilyn llwybr hardd trwy Ciliau Aeron a Llanerchaeron cyn gorffen ar Heol Llyswen yn Aberaeron. Bydd y rasys prawf amser yn dechrau am 9:00am ac yn gorffen am 5:00pm y prynhawn hwnnw, felly efallai y byddwch am ymweld â'r caffis a thafarndai lleol yn y dref harbwr Aberaeron - bydd croeso cynnes yno i bawb.>
Yn Aberystwyth, mae croeso i gefnogwyr fynd i'n hardal ‘Caru Ceredigion’ ar y Promenâd ar y dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul ble bydd sawl stondin yno yn cynnig gwybodaeth a chyfleoedd i gymryd rhan. Bydd busnesau lleol, sefydliadau a darparwyr bwyd a diod gwych hefyd yn bresennol ar hyd y promenâd, yn ogystal ag amrywiaeth eang o gaffis bwyd a diod yn y dref. Ymysg y stondinwyr bydd Cered: Menter Iaith Ceredigion, Summit Cycles, Beicio Cymru, Cyngor Tref Aberystwyth, Ceredigion Actif, Podlediad Over the Falls, Cyngor Sir Ceredigion, Clwb Seiclo Ystwyth, Aber Outdoors, Afan Bikes, Aber Adventures a mwy.
Bydd sgrin mawr a ddarperir gan British Cycling yn cael ei osod ar y prom yn Aberystwyth a fydd yn darlledu'r canlyniadau byw ddydd Sul.
Gall busnesau a pherchnogion cartrefi ledled y sir hefyd gymryd rhan trwy addurno eu hardaloedd i ddangos cefnogaeth i’r digwyddiad mawreddog hwn.
Mewn ambell i fan yn ystod y ras disgwylir i'r beicwyr gyrraedd cyflymder o 50mya. Am y rheswm yma, ar y diwrnod mae’n hollbwysig cadw llwybr y ras yn gwbl glir o gerbydau sydd wedi'u parcio. Gofynnir felly i drigolion ac ymwelwyr barcio eu cerbydau fel nad ydynt ar lwybr y ras. Bydd unrhyw gerbyd sy'n cael ei adael ar lwybr y ras yn cael ei dynnu bant.
Bydd tîm cynhyrchu British Cycling yn defnyddio dronau i gael lluniau o'r rasys ar gyfer eu darlledu. Fodd bynnag, gofynnwn i unrhyw weithredwyr dronau preifat neu hamddenol beidio â rhwystro'r beicwyr, y trefnwyr, nac y tîm cynhyrchu am resymau diogelwch yn ogystal â chamymddwyn posib ar breifatrwydd.
Dywedodd Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: "Mae bron yn amser i ni arddangos pa mor wych yw Ceredigion i feicwyr, twristiaid a busnesau. Mae gan Geredigion hanes balch o ran cynhyrchu beicwyr elitaidd gan gynnwys Josh Tarling, Stevie Williams a Gruff Lewis ac rydym yn gobeithio y bydd cynnal y digwyddiad hwn yn ysbrydoli beicwyr ifanc a fydd yn gallu gweld eu harwyr ar waith.
"Cofiwch gefnogi'r beicwyr ble gallwch chi, boed hynny drwy addurno eich busnesau a'ch cartrefi, eu cefnogi ar hyd y llwybr neu o bell, neu fynd i ymweld â'r trefi lleol".
I gefnogi'r penwythnos cyffrous hwn, byddwn hefyd yn cynnal cyfres o Sesiynau Haf yn Aberystwyth ar gyfer beicwyr ifanc yng Ngheredigion. Mae'r rasys beicio hwyl yn cael eu rhedeg gan Ystwyth Cycling, Beicio Cymru a Ceredigion Actif. Cynhelir y digwyddiadau ar ddydd Gwener 13 Mehefin yn Maes Blaendolau, dydd Sadwrn 28 Mehefin mewn ras gaeedig yn Aberystwyth ac eto ym Maes Blaendolau ar ddydd Gwener 11 Gorffennaf.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar www.facebook.com/ystwythjuniors.
Am wybodaeth pellach ac am sut gallwch gymryd rhan yn ystod y digwyddiad, ewch i Pencampwriaethau Seiclo - Cyngor Sir Ceredigion.