Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Beth mae diwylliant yn ei olygu i chi yng Ngheredigion?

Mae prosiect newydd yn lansio i archwilio’r holl agweddau sy’n gysylltiedig â diwylliant yng Ngheredigion, ac rydym eisiau clywed gennych chi.

Boed yn gerddoriaeth, bwyd, gwyliau, iaith, neu draddodiadau lleol – mae diwylliant yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb.

Mae ein harolwg newydd, sef Diwylliant: Barn, Profiad a Hunaniaeth, yn ymwneud â deall sut mae pobl yng Ngheredigion yn profi diwylliant yn eu bywydau bob dydd, a sut y gallwn ni gynnwys pawb.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Rydym ni’n dathlu bod Aberystwyth Ceredigion wedi ennill statws Dinas Llên UNESCO ac mae hynny wedi ei roi oherwydd bywyd llenyddol, creadigol a diwylliannol cyfoethog y dre a’r sir. Ond nid llenyddiaeth a threftadaeth yw hyd a lled ein diwylliant – mae’n cynnwys ymwneud â’n gilydd mewn bore coffi, mewn grŵp darllen, mewn oriel gelf neu grefft, mewn capel neu eglwys; wrth sgwrsio a rhoi y byd yn ei le mewn cylch cinio ac ar ’touchline’ gêm hoci, mynd i weld drama, panto a chyngerdd mewn theatr, neuadd gyngerdd neu neuadd bentre ac ysgol. Mae’n golygu yn sylfaenol ein hymwneud ni â’n gilydd i gymdeithasu, i drafod, i addysgu a mwynhau. Beth fyddwch chi yn ei wneud sy’n ddiwylliannol a beth hoffech chi ei wneud, beth sydd ar goll, beth sydd angen i ddenu chi allan i neuadd, ysgol, theatr, llyfrgell neu arddangosfa? Rydym ni am glywed gennych CHI. Bob un o chi!”

Sut i gymryd rhan?

Os ydych yn dymuno derbyn yr wybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu drwy anfon neges e-bost i clic@ceredigion.gov.uk Gallwch hefyd ofyn am gopi papur yn eich Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol neu drwy ffonio 01545 570881 neu anfon neges e-bost i clic@ceredigion.gov.uk. Dychwelwch y copïau papur i'ch llyfrgell leol neu i Celfyddydau Diwylliant a'r Iaith Gymraeg, Neuadd Cyngor Ceredigion Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion SA46 0PA.

Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac mae'n rhan o ymdrech ehangach i ddathlu a chryfhau diwylliant ledled y sir.