Skip to main content

Ceredigion County Council website

Baneri Glas i chwifio eto dros dri thraeth yng Ngheredigion yr haf hwn

Bydd Baneri Glas yn cael eu chwifio eto ar dri o draethau mwyaf poblogaidd Ceredigion yn 2025 yn y Borth, Llangrannog a Thresaith gyda chwe thraeth ychwanegol yn ennill statws Gwobr Glan Môr a phedwar arall yn derbyn Gwobr Arfordir Gwyrdd traethau gwledig.

Rhaid i draethau sy'n ennill statws gwobr y Faner Las ac Arfordir Gwyrdd fodloni'r safon uchaf "Rhagorol" o ran ansawdd dŵr cyffredinol, ac fe'u beirniadir am ddarpariaeth cyfleusterau i ddefnyddwyr y traeth ac am ddangos rheolaeth dda a darpariaeth diogelwch. Mae Gwobr Glan Môr yn cydnabod traethau sy'n cydymffurfio â safonau ansawdd dŵr cydnabyddedig, cyfleusterau cyhoeddus, darpariaeth diogelwch a rheolaeth.

Mae'r Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Economi ac Adfywio, wedi croesawu'r newyddion da unwaith eto bod nifer o'n traethau yn parhau i gael eu cydnabod gyda'r gwobrau sicrhau ansawdd hyn. Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd yn gweld y bydd baneri/placiau Gwobr Glas, Gwyrdd a Glan Môr yn cael eu codi ar draethau ymdrochi mwyaf poblogaidd Ceredigion yn 2025, ac rydym yn disgwyl ymlaen yn fawr i weld llawer o ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd yn mwynhau eu hunain ar draethau ar hyd arfordir Ceredigion yr haf hwn.”

“Hoffwn unwaith eto fynegi fy ngwerthfawrogiad i'r nifer o unigolion, grwpiau/sefydliadau a'r sector busnes ledled Ceredigion am wirfoddoli eu hamser i hyrwyddo ein negeseuon Caru Ceredigion a thrwy gynnal casgliadau sbwriel rheolaidd ar y traeth, y promenâd a'r glannau ynghyd â hyrwyddo cadwraeth amgylcheddol, addysg bywyd gwyllt a gweithgareddau diogelwch traeth/dŵr ac ati ar hyd ein harfordir. Heb y gefnogaeth hirdymor hon, ni fyddem yn gallu cyflwyno cymaint o'n traethau a llwyddo i ennill y gwobrau arfordirol mawreddog hyn, sy'n gosod traethau Ceredigion ymhlith y gorau o gyrchfannau arfordirol yng Nghymru a'r DU sy’n sbardun allweddol i economi Ceredigion."

Mae’r lleoliadau dŵr ymdrochi dynodedig / traethau a ganlyn yng Ngheredigion wedi ennill gwobrau arfordirol uchel eu parch yn 2025:

Baner Las (Safon ansawdd dŵr rhagorol yn gyffredinol)

Borth*

Llangrannog*

Tresaith*

 

Gwobr Glan Môr (Safon ansawdd dŵr dda neu ddigonol ar y cyfan)

Clarach*

Gogledd Aberystwyth*

De Aberystwyth*

Harbwr Ceinewydd*

Dolau/Gogledd Ceinewydd*

Aberporth*

 

Gwobr Arfordir Glas (Safon ansawdd dŵr ardderchog yn gyffredinol)

Llanrhystud*

Cilborth-Llangrannog*

Penbryn*

Mwnt*

 

Cynghorir ymdrochwyr yn gryf i nofio bob amser ar draeth sydd â gwylwyr bywyd rhwng y baneri coch a melyn sy'n dynodi'r ardaloedd nofio dynodedig a oruchwylir yng Ngheredigion gan Wylwyr Bywyd yr RNLI tra byddant ar ddyletswydd ar draethau Borth, Clarach, Gogledd Aberystwyth, De Aberystwyth, Harbwr Cei Newydd, Llangrannog, Tresaith ac Aberporth.

I weld manylion Tablau Llanw Ceredigion 2025 ewch i: Tablau Llanw Ceredigion 2025.

Cofiwch, ‘Parchwch y Dŵr’ ac ‘Arnofiwch i Fyw’.

Mewn argyfwng ar hyd yr arfordir – Ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau.

(Credyd Llun: Janet Baxter)