Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Arlwy hydref a gaeaf 2025 Theatr Felinfach

Mae’r flwyddyn newydd ddiwylliannol ar fin cychwyn yn Theatr Felinfach ac mae yna wledd yn eich disgwyl o nawr hyd at y Nadolig.

 

#
#
#
Ddathliad comig a thwymgalon o bobi bydd yn cychwyn yr arlwy gyda pherfformiad o The Great British Bake Off Muscial gan gwmni newydd o Lambed, Saunders Stage Productions ar 12 a 13 Medi. P’un ai ydych chi’n gefnogwr brwd o’r sioe neu wrth eich bod a sioe gerdd dda, mae hon yn wledd theatrig i’r synhwyrau.

 

Gan godi cwestiynau ynglŷn â’n perthynas ni gyda byd natur ac ieithoedd lleiafrifol fel ei gilydd, mi fydd perfformiad o Pan Elo’r Adar gan Rhiannon Mair a Steffan Phillips ar 17 Medi yn gynhyrchiad theatr obeithiol sy’n ein hannog i weithredu er mwyn y dyfodol.

Dathliad arall fydd ar 20 Medi gyda ‘Chyngerdd Dathlu 50 Cylch Meithrin Talgarreg. Perfformiadau gan Ysgol Gynradd Talgarreg, Aled Wyn Davies, Bois y Rhedyn a llawer mwy.

I ddod a mis Medi i’w derfyn, cyfle Ysgol Berfformio Theatr Felinfach fydd hi i ddisgleirio wrth iddynt berfformio sioe ‘Y Gêm ar 27 Medi, sioe wedi ei dyfeisio gan yr aelodau. Ydych chi’n barod i chwarae? Wrth iddynt fynd yn ddyfnach drwy’r lefelau, a wnawn nhw ddianc?

2 fam, 2 dad, 2 fab x wisgi, tiwlips a ffôn = Llanast! Cyfle i wylio Cwmni Theatr Bara Caws ar 20 Tachwedd gyda chyfieithiad Gareth Miles o ‘Le Dieu du Carnage’ gan Yasmina Reza. Mae chwarae’n troi chwerw go iawn yn y ddrama ddoniol, ddeifiol hon.

Heb anghofio Pantomeim Nadolig Theatr Felinfach wrth i gamerâu Hollywood gyrraedd Dyffryn Aeron - mae’r cyffro a’r potensial i serennu yn taflu llwch i lygaid criw Dyffryn Aeron - ac wrth iddynt fod yn rhan o ffilm i gofio’r cyfansoddwr o Ferthyr, Joseph Parry - cânt eu tynnu i ganol cythrwfl y Gweithwyr a’r Meistri Haearn Merthyr a hyd yn oed ymhellach... Ond o leiaf maen nhw wedi dianc rhag drygioni criw Mr Ŵr, Ben Ake a Gwenwyn Ŵr - neu a ydyn nhw? Perfformiadau eleni ar 8 Rhagfyr yna 10 - 13 Rhagfyr.

I ddathlu’r Nadolig mewn steil, cyfle i floeddio canu, dawnsio a mwynhau yng nghwmni theulu, ffrindiau neu pharti gwaith mewn noson ‘50 Shêds o Santa Clôs ar 19 Rhagfyr gyda Rhys Taylor a’r band. Tiwns a mash yps ddwyieithog anhygoel – fydd y noson siŵr o’ch rhoi yn hwyliau’r Nadolig.  

Yn ogystal fydd Theatr Felinfach yn cynnal Bore Coffi Macmillan eleni ar 26 Medi am 11:00.

Am docynnau a gwybodaeth bellach ewch ar wefan Theatr Felinfach theatrfelinfach.cymru neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk.

Gallwch hefyd fynd ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol drwy chwilio am Theatr Felinfach ar Facebook, YouTube ac Instagram.