Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Anogir y cyhoedd i fod yn wyliadwrus wrth i Ffliw Adar gael ei ddarganfod mewn adar môr ar arfordir Ceredigion

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn annog trigolion ac ymwelwyr i fod yn wyliadwrus ar ôl i achosion o ffliw adar (ffliw ieir) gael eu cadarnhau mewn adar môr gwyllt ar hyd arfordir Ceredigion, yn enwedig rhwng Aberaeron a Chei Newydd.

Mae’r rhybudd yn dilyn cadarnhad swyddogol o achos ffliw adar mewn gwylan goch ar draeth Cei Newydd, ynghyd â chynnydd mewn adroddiadau am adar môr marw yn yr ardal. O ganlyniad, mae arwyddion gwybodaeth yn cael eu gosod mewn mannau allweddol ar y traethau i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ac atgoffa pobl i adrodd yr achosion yn ddiogel.

Cyngor Iechyd Cyhoeddus:

  • Peidiwch â chyffwrdd nac â chasglu adar gwyllt bu farw neu’n edrych yn sâl.
  • Cadwch gŵn ar dennyn a pheidiwch â gadael y llwybrau cerdded dynodedig.
  • Osgoi unrhyw gysylltiad â phlu neu ysgarthion adar.
  • Os ydych yn cadw ieir neu adar eraill, golchwch eich dwylo a diheintiwch eich esgidiau cyn gofalu amdanynt.

Gofynnir i’r cyhoedd roi gwybod am unrhyw adar gwyllt sydd wedi marw – gan gynnwys adar dŵr fel elyrch, gwyddau, hwyaid, neu adar ysglyfaethus – drwy ffonio llinell gymorth Defra ar 03459 33 55 77 neu ewch ar-lein drwy ymweld â www.gov.uk/guidance/report-dead-wild-birds.

Er mwyn helpu gyda chasglu a gwaredu’r adar gwyllt sydd wedi marw yn ddiogel, darparwch y wybodaeth ganlynol os yn bosib:

  • Nifer a rhywogaeth yr adar (os yw’n hysbys)
  • Lleoliad manwl gan ddefnyddio What3Words neu gydgyfeiriannau GPS
  • Amser y canfyddiad
  • Lluniau (os ar gael)
  • Caniatâd i rannu eich manylion cyswllt gyda chontractwr penodedig y Cyngor

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am Ddiogelu'r Cyhoedd: “Mae’r Cyngor yn pwysleisio bod y risg i'r cyhoedd yn isel, ond bod angen bod yn wyliadwrus. Hoffai'r Cyngor diolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad ac atgoffir pawb i beidio â cheisio trin unrhyw adar gwyllt sydd wedi marw.”

Am fwy o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/guidance/removing-and-disposing-of-dead-wild-birds neu cysylltwch â Clic Ceredigion ar 01545 570881.