Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Angen cymorth parhaus i deuluoedd Wcráin sy’n ffoi rhag rhyfel

Ers dechrau'r rhyfel yn Wcráin yn 2022, mae Ceredigion wedi croesawu 90 o deuluoedd drwy'r rhaglen Cartrefi i Wcráin.

Y teulu diweddaraf i gyrraedd yma oedd mam a dau o blant ifanc. Fe’u gorfodwyd i adael Wcráin bythefnos yn gynharach na'r disgwyl gan nad oedd hi’n ddiogel iddynt aros yn yr ardal lle’r oeddent yn byw. Roedd gorfod gadael mor sydyn yn golygu gadael anifeiliaid anwes, yn ogystal ag eiddo personol.

Yn ffodus, maen nhw wedi cael eu croesawu i gartref letywyr yng Ngheredigion sydd wedi ymrwymo i gyfrannu at yr ymdrech ddyngarol hon sy'n newid bywydau. Bydd yr amgylchedd diogel, tawel a sefydlog hwn yn rhoi cyfle i'r teulu ddechrau adfer yn emosiynol ac yn gorfforol ac yn darparu sylfaen ddiogel i ailadeiladu eu bywydau. 

Mae bellach wedi bod yn dair blynedd ers ymosodiad Rwsia ac mae'r gwrthdaro yn parhau i ddinistrio bywydau a chymunedau. Er bod llawer o deuluoedd wedi dod o hyd i ddiogelwch dros dro, mae'r rhyfel yn parhau ac mae miloedd yn Wcráin sydd angen tai diogel a lletywyr tosturiol. 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: "Mae tîm Ailsefydlu Ffoaduriaid Ceredigion yn parhau i weithio'n ddiflino gyda chymunedau a gwirfoddolwyr i baru unigolion a theuluoedd sydd wedi'u dadleoli â chartrefi diogel. Mae'r rhaglen Cartrefi i Wcráin yn darparu arweiniad a chefnogaeth i westai a lletywyr, gan sicrhau profiadau diogel a chadarnhaol i bawb sy'n rhan ohono." 

Sut allwch chi helpu:

  • Dewch yn letywyr: Allech chi gynnig ystafell sbâr neu eiddo i deulu neu unigolyn o Wcráin sydd wedi’u dadleoli?
  • Codi ymwybyddiaeth: Rhannwch y neges hon ac anogwch bobl eraill i gymryd rhan.

Mae pob cartref a gynigir yn dod â diogelwch, urddas a gobaith i rywun sydd wedi colli hyn eu hunain.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Ailsefydlu Ffoaduriaid drwy e-bostio clic@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 570881.

02/12/2025