
Aelodau Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn ymweld â San Steffan
Ar 24 Mehefin 2025, teithiodd Lleucu Nest, disgybl Ysgol Penweddig sy’n cynrychioli Ceredigion yn Senedd Ieuenctid Prydain fel Aelod Seneddol Ifanc (ASI), Kiani Francis, disgybl Ysgol Penglais sy’n cynrychioli Ceredigion yn Senedd Ieuenctid Cymru a Bronwen Tuson, hefyd yn ddisgybl Ysgol Penglais a Chadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion, i Lundain i gwrdd ag Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake.
Dywedodd Lleucu Nest, ASI Prydain dros Geredigion: “Roedd ymweld â San Steffan yn brofiad ysbrydoledig ac yn agoriad llygad. Roedd gweld yr Aelodau Seneddol ar waith a bod yn dyst i ddadl fyw wedi rhoi dealltwriaeth ddyfnach i mi o’r broses wleidyddol. Mae wedi cryfhau fy angerdd dros gael effaith ystyrlon mewn bywyd cyhoeddus."
Dywedodd Bronwen Tuson, Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion: “Mae’r profiad hwn wedi rhoi cipolwg gwerthfawr inni ar waith mewnol Senedd y DU, yn ogystal â lle i drafod pryderon pwysig pobl ifanc. Mae cyfleoedd fel hyn yn ein galluogi i gryfhau ymhellach y berthynas rhwng ein Cyngor Ieuenctid lleol a Llywodraeth y DU, gan ganiatáu inni rymuso lleisiau pobl ifanc.”
Dywedodd Ben Lake, AS Ceredigion: "Cefais y pleser o groesawu Kiani, Lleucu a Bronwen i San Steffan ar ddiwedd mis Mehefin. Roedd yn galonogol gweld pobl ifanc yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth oherwydd yn y pen draw, nhw yw'r dyfodol ac mae eu brwdfrydedd yn hanfodol er mwyn creu cymdeithas well i bawb. Rydw i'n gobeithio bod y daith wedi bod o fudd iddynt, ac eu bod wedi medru datblygu eu dealltwriaeth o sut mae ein system wleidyddol yn gweithio. Edrychaf ymlaen at glywed mwy ganddynt yn y dyfodol. Pob dymuniad da i chi.”
Y Cynghorydd Wyn Thomas yw Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Ychwanegodd: “Mae’n hanfodol bwysig bod pobl ifanc yn cael y cyfle i ymgysylltu a chymryd rhan yn y broses wleidyddol, ac mae hon yn un o sawl ffordd y gallwn gefnogi’r ymgysylltiad hwnnw, ac rydym yn ddiolchgar i’n AS lleol Ben Lake am ei gefnogaeth barhaus i alluogi pobl ifanc i gael y cyfleoedd hyn.”