
£100,000 ar gael i gefnogi prosiectau natur ledled Ceredigion
Mae Partneriaeth Natur Ceredigion yn gwahodd ceisiadau am gyllid gwerth £100,000 i gefnogi prosiectau sy’n creu, adfer neu wella asedau naturiol ledled y sir. Nod y cynllun yw dod â natur yn nes at bobl - lle maent yn byw, yn gweithio ac yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus. Ariennir y fenter gan gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.
Mae croeso i Grwpiau a gyfansoddwyd, Elusennau Cofrestredig, Cwmnïau, Busnesau Preifat a Sefydliadau’r Sector Cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau er budd natur a chymunedau Ceredigion gyflwyno cais.
Gall prosiectau gynnwys gwella mynediad i safleoedd presennol neu newydd, gan sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb. Fodd bynnag, rhaid i bob prosiect gynnwys gwelliannau bioamrywiaeth bendant megis gosod blychau nythu ar gyfer adar neu ystlumod. Bydd panel grantiau yn asesu’r ceisiadau, gan ddyfarnu mwy o bwyntiau i brosiectau sy’n cynnig budd mwyaf i fioamrywiaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Eryl Evans, Hyrwyddwr Bioamrywiaeth Ceredigion: “Ar ôl profi’n uniongyrchol ddylanwad y math hwn o gyllid, rwy'n gwybod pa mor bwerus y gall fod. Mae'n rhoi cyfle i egin syniad dyfu i fod yn rhywbeth sydd wir yn ystyrlon. Gyda’r gefnogaeth gywir, gall mannau lleol ddod yn ganolfannau ffyniannus ar gyfer natur gan gefnogi bioamrywiaeth a chynnig manteision o ran iechyd meddwl a lles i bawb sy'n byw yn yr ardal neu'n ymweld â'r ardal. Dyma'r math o gyllid sy’n gallu helpu grwpiau lleol i gymryd y cam cyntaf pwysig hwnnw, ac rydw i wedi gweld pa mor drawsnewidiol y gall hynny fod.”
Gall sefydliadau sydd â diddordeb ofyn am becyn ymgeisio drwy e-bostio bioamrywiaeth@ceredigion.gov.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener, 19 Medi 2025 am 12 hanner dydd.