Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Tîm Cefnogi’r Gymraeg Ceredigion yn lansio podlediad newydd arloesol

Mae Tîm Cefnogi’r Gymraeg Adran Addysg Cyngor Sir Ceredigion yn falch o gyhoeddi lansiad cyfres o bodlediadau newydd, “Pod yr Ysgol,” sydd wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer y gweithlu addysg.

Pod Yr Ysgol Rhifyn 1.Daw’r fenter hon mewn ymateb i adborth gan staff y sector addysg uwchradd a oedd yn ei chael yn anodd mynychu gwersi dysgu Cymraeg ffurfiol wrth weithio. Er bod apiau dysgu iaith yn fuddiol, mynegodd llawer o aelodau staff y byddai'n well ganddynt wrando ar bodlediadau wrth gymudo.

Mae Pod yr Ysgol ar hyn o bryd yn cynnwys chwe phennod ddifyr, pob un yn canolbwyntio ar wahanol agweddau o ddiwrnod ysgol ac amserlen, megis cyrraedd a gadael yr ysgol, ac amser cinio. Mae'r podlediadau hyn yn berffaith ar gyfer y rhai sydd am ddysgu geirfa a phatrymau syml sy'n gysylltiedig â bywyd ysgol.

Bydd y podlediadau ar gael ar bob prif lwyfan digidol, gan gynnwys Apple Podcasts a Spotify, gan ddechrau o fis Medi ymlaen.

Mae’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl gyda chefnogaeth Arfor a Llwyddo’n Lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Rwyf wrth fy modd gyda lansiad Pod yr Ysgol. Gan gydnabod yr heriau a wynebir gan staff wrth fynychu gwersi Cymraeg ffurfiol, roeddem am ddarparu offeryn dysgu hyblyg a hygyrch. Mae’r podlediadau hyn yn cynnig ffordd hwylus o ddysgu geirfa ac ymadroddion Cymraeg sy’n ymwneud â bywyd ysgol, gan ei gwneud hi’n haws i’n staff integreiddio’r iaith i’w harferion dyddiol. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Arfor a Llwyddo’n Lleol i ddod â’r prosiect hwn yn fyw, yn ogystal â blaengaredd a gwaith diwyd Tîm Cefnogi’r Gymraeg.”

I wrando ar Pod Yr Ysgol, ewch i: https://pt-br.spreaker.com/podcast/pod-yr-ysgol--6245100