Hyfforddiant Ceredigion Training yn cynnal Bore Coffi Macmillan llwyddiannus
Mwynhaodd staff a dysgwyr Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT) gymryd rhan mewn Bore Coffi Macmillan hwyr ar 14 a 15 Hydref 2024. Dyma’r digwyddiad sy’n codi’r swm fwyaf o arian bob blwyddyn ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth hanfodol i bobl yr effeithir arnynt gan gancr.
i
Yn ogystal, am £5, roedd y prentisiaid wedi cynnig sesiwn trin gwallt, coffi, a chacen a brofodd yn llwyddiant ysgubol, gyda sawl aelod o’r gymuned yn ymuno ar y ddau ddiwrnod.
Y cyfanswm terfynol a godwyd oedd £500; dywedodd un o’r dysgwyr: “Rydw i’n teimlo ymdeimlad gwych o gyflawniad.”
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae staff a dysgwyr Hyfforddiant Ceredigion Training wedi gwneud gwaith eithriadol yn ystod Bore Coffi Macmillan. Arweiniodd eu gwaith caled a'u hymroddiad at ddigwyddiad llwyddiannus a gododd swm sylweddol at achos hollbwysig. Roedd y creadigrwydd a’r gwaith tîm a ddangoswyd gan bawb a gymerodd ran yn wirioneddol drawiadol. Da iawn i bawb am wneud y digwyddiad hwn yn gymaint o lwyddiant.”
I gysylltu â Hyfforddiant Ceredigion Training a dysgu mwy am yr hyn maent yn ei wneud, e-bostiwch nhw ar info@hctceredigion.org.uk neu ffoniwch 01970 633040.