Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Dathlu Llwyddiannau Chwaraeon Ceredigion yng Ngwobrau Chwaraeon 2024

Cynhaliwyd Gwobrau Chwaraeon Ceredigion 2024 ddydd Gwener, 05 Gorffennaf 2024 yn Swyddfeydd y Cyngor ym Mhenmorfa, Aberaeron. Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd gan Gyngor Chwaraeon Ceredigion mewn partneriaeth â Ceredigion Actif, yn dathlu llwyddiannau chwaraeon eithriadol pobl y Sir a’r rhai sy’n eu cefnogi.

Bedwyr Llywelyn yn derbyn gwobr Llysgennad Ifanc y Flwyddyn gan Tim Morgan o Hafren Furnishers.Yn ystod y seremoni cafwyd cydnabyddiaeth ar gyfer wyth categori gwobrau i dynnu sylw at ymroddiad a thalent pobl Ceredigion. Ymysg y rhai a gafodd eu hanrhydeddu roedd 42 o athletwyr iau talentog a 22 o athletwyr rhyngwladol, gan arddangos sgiliau chwaraeon trawiadol y rhanbarth.

Roedd y gwobrau hefyd yn dathlu cyfraniadau gwirfoddolwyr ifanc, arwyr di-glod, gwirfoddolwyr chwaraeon anabledd, a Hyfforddwr y Flwyddyn. Mae'r unigolion hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth ysbrydoli ac annog mwy o bobl yn y Sir i fod yn actif a gwneud defnydd o'r cyfleusterau rhagorol sydd ar gael.

Dywedodd Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid yng Ngheredigion: "Mae'n wych gweld cymaint o unigolion, mewn mwy na 15 math o chwaraeon, yn cael eu hanrhydeddu am eu gwaith caled a'u cyflawniadau. Y llynedd roedd y brodyr Tarling yn cael eu hanrhydeddu ac eleni mae Josh yn y tîm olympaidd ynghyd â dyn ifanc arall o Geredigion, Stevie Williams, sydd ar hyn o bryd yn cystadlu yn y Tour de France. 

“Mae nhw’n lysgenhadon gwych dros Geredigion. Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw hi i gefnogi ein pobol ifanc a chydnabod maint eu hymdrech. Mae’r gwobrau’n ein hatgoffa o ymdrech bersonol pob un ond hefyd ymdrech ein cymuned i hyrwyddo chwaraeon a chefnogi gweithgarwch corfforol.”

Mae Cyngor Chwaraeon Ceredigion yn estyn eu diolch o galon i’r pum cwmni a noddodd y digwyddiad: Castell Howell, Alliance Leisure, ABER Instruments, Cawdor Cars, a Hafren Furnishers. Gwnaeth eu cefnogaeth y dathliad hwn yn bosibl.

Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr ar eu llwyddiannau rhyfeddol. Mae eich gwaith caled a'ch ymroddiad yn wirioneddol ysbrydoledig!