Cwblhawyd gwaith adeiladu yn ddiweddar i uwchraddio llwybr ar gampws Llanbedr Pont Steffan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn dilyn dyfarniad grant gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, a ddatblygwyd ac a ddarparwyd gan Gyngor Sir Ceredigion.

Nodwyd y llwybr hwn i’w uwchraddio sawl blwyddyn yn ôl fel rhan o gynigion ar gyfer llwybrau teithio llesol yn Llanbedr Pont Steffan yn y dyfodol. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys cwrb isel a phalmentydd botymog newydd yn y dref i helpu i wella hygyrchedd, yn enwedig ar gyfer y gymuned sydd â nam symudedd neu nam ar y golwg. Mae hyn yn rhan o nodau Deddf Teithio Llesol (Cymru) i wella hygyrchedd i bawb er mwyn gwneud mwy o deithiau llesol.

Mae gwelliannau bioamrywiaeth hefyd wedi’u cynnwys yn y cynllun hwn, megis blychau adar ac ystlumod newydd, nifer o goed aeddfed newydd wedi’u plannu, ailgyflwyno gwâl dyfrgi ar yr afon a thyllwyd pantiau newydd i gynorthwyo gyda dŵr ffo yn yr ardal.

Keith Henson yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon. Dywedodd: “Rwy’n ddiolchgar i swyddogion Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol am wneud cais llwyddiannus am grant gan Lywodraeth Cymru ac am ddatblygu a rheoli’r gwaith adeiladu ar gyfer y cynllun hwn. Roedd y llwybr hwn yn fwdlyd iawn yn ystod misoedd y gaeaf ac erbyn hyn mae gennym lwybr tarmac 2 fetr o led sy’n darparu hygyrchedd llawer gwell drwy gydol y flwyddyn i gerddwyr, defnyddwyr cymhorthion symudedd a theuluoedd ifanc gyda bygis.

Rydym am i bobl wneud mwy o deithiau llesol yn hytrach na defnyddio eu ceir yn ein hymdrechion i leihau ein hôl troed carbon a helpu yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ac mae’r llwybr hwn hefyd yn darparu manteision hamdden gyda mynediad i’r llwybr gwyrdd a heddychlon hwn ar lan yr afon a all hefyd gynnig ffyrdd iachach o fyw a chyfleoedd lles iechyd meddwl. Mae’r llwybr hwn hefyd yn cysylltu â’r droetffordd newydd a adeiladwyd ar ffordd Llanfair Clydogau fel rhan o ddatblygiad yr ystâd dai newydd gerllaw.”

Emyr Jones yw Pennaeth Gweithredol Eiddo a Datblygu Ystadau’r Brifysgol. Dywedodd: “Rwy’n ddiolchgar iawn i Gyngor Sir Ceredigion am wella hygyrchedd i’n campws ar ôl uwchraddio’r llwybr poblogaidd hwn ar lan yr afon gan ddefnyddio arian grant. Mae hyn nid yn unig yn darparu gwelliannau amgylcheddol ond hefyd yn gwella’r cysylltiad rhwng y campws a’r dref. Mae gan y gymuned leol nawr well mynediad at y gwasanaethau a’r cyfleusterau ar ein safle megis ein Neuadd Chwaraeon a’n caffi, tra gall ein staff a’n myfyrwyr wneud teithiau haws i amrywiaeth o gyfleusterau yn y dref.

Mae ein mannau gwyrdd hefyd wedi’u gwella drwy blannu coed newydd fel rhan o’r cynllun hwn, sy’n ategu prosiect arall a gefnogir gan y Cyngor i blannu 200 o goed ar y campws fel rhan o’n dathliadau deucanmlwyddiant diweddar. Mae hon yn enghraifft wych o waith partneriaeth effeithiol rhwng Cyngor Sir Ceredigion a ninnau i wella cyfleusterau lleol a’r amgylchedd.”

I gael rhagor o wybodaeth am Deithio Llesol, ewch i: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/teithio-ffyrdd-a-pharcio/teithio-llesol/

05/04/2023