Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Ceredigion wedi cyhoeddi ei Gynllun Llesiant Lleol ar gyfer 2023-28.

Dyma'r ail Gynllun Llesiant a gynhyrchir gan BGC Ceredigion ers cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Mae'r Ddeddf yn gofyn i gyrff y sector cyhoeddus ddod at ei gilydd fel BGC ar gyfer eu hardaloedd lleol.

Mae'r Cynllun Llesiant Lleol yn nodi sut y bydd y Bwrdd yn cydweithio i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Ceredigion am y 5 mlynedd nesaf. Cymeradwyodd BGC Ceredigion y Cynllun Llesiant Lleol yn ffurfiol ar gyfer 2023-28 ar 24 Ebrill 2023, a chyhoeddwyd y Cynllun ar dudalen we’r BGC ar 02 Mai 2023.

Mae’r Cynllun Llesiant Lleol 2023-2028 yn seiliedig ar yr Amcanion Llesiant canlynol:

  • Llesiant Economaidd: Byddwn yn cydweithio i sicrhau economi gynaliadwy sydd o fudd i bobl leol ac sy’n adeiladu ar gryfderau Ceredigion.
  • Llesiant Cymdeithasol: Byddwn yn cydweithio i leihau anghydraddoldebau yn ein cymunedau ac yn defnyddio atebion cymdeithasol a gwyrdd i wella iechyd corfforol a meddyliol.
  • Llesiant Amgylcheddol: Byddwn yn cydweithio i gyflawni mentrau datgarboneiddio yng Ngheredigion i ddiogelu a gwella ein hadnoddau naturiol.
  • Llesiant Diwylliannol: Byddwn yn cydweithio er mwyn i gymunedau deimlo’n ddiogel a’u bod wedi’u cysylltu, gan hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol a chynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.
  • Mynd i’r Afael â Chaledi a Thlodi [thema drawsbynciol]: Byddwn yn cydweithio i gyflawni uchelgeisiau cyffredin ar gyfer mynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldebau yng Ngheredigion.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn unigryw i Gymru ac yn cynnig cyfle pwysig i wneud newid cadarnhaol, hirhoedlog i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol, gan sicrhau bod yr holl wasanaethau cyhoeddus yn cydweithio er budd llesiant Cymru.

Gwerthfawrogwn yr amgylchedd rydym yn byw ynddo, ond gwyddom fod gennym heriau. Bydd pandemig Covid-19, argyfwng costau byw, prinder sgiliau a newid hinsawdd yn arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol. Mae’r rhain yn faterion cymhleth sydd angen mynd i’r afael â nhw mewn ffordd gydweithredol. Mae'r Cynllun hwn yn dangos ein bod ni fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion wedi ymrwymo i lunio a darparu gwasanaethau’n well gyda’n cymunedau er mwyn gwella llesiant yng Ngheredigion yn awr, yn ogystal ag ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Manteisiodd trigolion lleol ar y cyfle i ddweud eu dweud ar y Cynllun drafft yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus 3 mis a ddaeth i ben ar 31 Ionawr 2023.

Gallwch ddarllen Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion ar gyfer 2023-28 ar y wefan: Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion 2023-28 

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01545 570881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk.

04/05/2023